Wythnos yn unig cyn noson agoriadol prifwyl pêl-droed Ewro 2016 yn Ffrainc, mae’r wlad wedi cael ei tharo gan lifogydd difrifol a’i llethu gan streicio.

Bu’n rhaid i amgueddfa fyd-enwog y Louvre gau ei drysau heddiw er mwyn diogelu gwaith celf rhag y dŵr.

Cafodd ffyrdd eu cau ynghyd â nifer o orsafoedd rheilffordd gan achosi tagfeydd ym Mharis.

Fe ddywedodd Gweinyddiaeth Amgylchedd y wlad fod yr afon Seine ar ei lefel uchaf ers 1982, gan adael cloddiau ger y Twr Eiffel dan ddŵr.

Ymhlith y mannau eraill a gafodd eu taro gan y llifogydd roedd Dyffryn y Loire yng nghanolbarth Ffrainc.

Dywedodd yr Arlywydd Francois Hollande y bydd gorchymyn o argyfwng naturiol yn cael ei gyhoeddi.

Mae’r llifogydd wedi ychwanegu at broblemau eraill yn y wlad wrth i’r gweithredu diwydiannol yn erbyn diwygiadau llafur y Llywodraeth barhau i lethu’r rhwydwaith cludiant.

Mae’r gweithredu diwydiannol wedi arwain at brinder tanwydd, tra bod 40% o drenau cyflym y wlad wedi eu canslo oherwydd y streiciau.

Fe ganslodd cwmni awyrennau Ryanair 75 o deithiau heddiw wrth i reolwyr traffig awyr weithredu.

Mae disgwyl i filoedd o Gymry deithio i’r wlad ymhen wythnos er mwyn cefnogi carfan Chris Coleman.