Cheryl James (Llun: PA)
Yn ddiweddarach heddiw, fe fydd rhieni’r milwr Cheryl James yn cael clywed dyfarniad cwest newydd i’w marwolaeth ym Marics Deepcut fwy nag ugain mlynedd yn ôl.

Fe fydd y Crwner yn Woking, Brian Barker QC, yn penderfynu i gadarnhau penderfyniad cwest cynharach ei bod wedi ei lladd ei hun, neu’n cynnig esboniad gwahanol.

Mae Des a Doreen James o Langollen wedi brwydro tros gyfiawnder ers y cwest cynta’ hwnnw ym mis Rhagfyr 1995.

Maen nhw’n dadlau nad oedd y gwrandawiad wedi ystyried yr amgylchiadau’n llawn, gan gynnwys yr awyrgylch o ddiod a rhyw yn y Barics.

Y cefndir

Daethpwyd o hyd i gorff Cheryl James yn Deepcut ar 27 Tachwedd 1995 gydag anaf bwled i’w phen.

Ond roedd hi’n un o bedwar o filwyr a oedd wedi marw trwy saethu yn y Barics o fewn cyfnod byr.

Un o’r honiadau y bydd y Crwner yn eu hystyried yw fod y ferch 18 oed wedi cael ei gorfodi i gael rhyw gyda milwr arall.