Llun: PA
Mae ymgynghorydd addysg Llywodraeth Cymru wedi cwestiynu’r polisi o geisio lleihau maint dosbarthiadau babanod mewn ysgolion cynradd.
Roedd y polisi’n un o brif addewidion y Democratiaid Rhyddfrydol cyn etholiadau’r Cynulliad, a arweiniodd at benodi cyn-arweinydd y blaid, Kirsty Williams yn Ysgrifennydd Addysg yn llywodraeth leiafrifol Llafur.
Roedd hefyd yn un o’r polisïau y bu’n rhaid cyfaddawdu yn ei gylch wrth dderbyn arweinydd y Democratiaid i grombil y llywodraeth wedi iddi gefnogi enwebiad Carwyn Jones i fod yn Brif Weinidog.
Yn ôl yr Athro David Reynolds, dydy polisi o’r fath, lle na fyddai maint dosbarthiadau’n cael bod yn uwch na 25, ddim yn arwain at ganlyniadau sylweddol.
Gwell fyddai gwario arian ar ddatblygiad proffesiynol athrawon, yn ôl yr arbenigwr.
Polisïau ‘llawer rhatach’
Ond mae Llywodraeth Cymru’n dadlau bod y polisi’n debygol o leihau llwyth gwaith athrawon.
Roedd maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi neilltuo £42 miliwn ar gyfer y polisi, gan ddadlau bod mwy na hanner y dosbarthiadau babanod yn rhy fawr.
Yn ôl ymchwil diweddar, roedd 7.3% o ddisgyblion mewn dosbarthiadau o fwy na 30 o blant.
Dywedodd yr Athro David Reynolds fod yna bolisïau “llawer rhatach”.