Marcus Evans
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i fachgen 12 oed o’r Barri sydd ar goll.

Nid yw Marcus Evans wedi cael ei weld ers 11.30yh nos Sadwrn, 28 Mai.

Mae Marcus tua 5 troedfedd o uchder, o faint bach gyda gwallt byr brown. Mae’r heddlu’n credu ei fod yn gwisgo jîns glas neu drowsus llwyd, crys-t a trainers Nike du pan gafodd ei weld y tro diwethaf.

Mae ganddo gysylltiadau a Phenarth.

Dylai unrhyw un sydd wedi ei weld gysylltu a Heddlu’r De ar 101 gan nodi’r cyfeirnod *196736 neu ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.