Gwaith ymchwil i glefyd y siwgr Llun: PA
Nid yw tri chwarter o blant Cymru a Lloegr sy’n dioddef o glefyd y siwgr yn cael eu profion blynyddol i reoli’r cyflwr, yn ôl adroddiad newydd.

Yn 2014/15, dim ond 25.4% o blant 12 oed a gafodd pob un o’r saith prawf iechyd sy’n cael ei argymell ar eu cyfer, yn ôl Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol.

Mae’r gwiriadau hyn yn cynnwys profion i wirio lefel y siwgr yn y gwaed, tyfiant, pwysau gwaed, arennau, colesterol, llygaid a thraed.

Yn ôl yr elusen, Diabetes UK, os nad yw pobol ifanc yn cael eu cefnogi i reoli eu cyflwr o oedran ifanc, maen nhw’n fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Er hyn, mae’r archwiliad yn nodi fod y 27,682 o blant a phobol ifanc a fu’n rhan o’r ymchwil wedi amlygu gwelliant yn y modd caiff y cyflwr ei reoli.

‘Peidio gorffwys ar ein rhwyfau’

Yn ôl Dr Justin Warner o Goleg Brenhinol Iechyd Pediatrig a Phlant, mae’n “galonogol” i weld gwelliannau, ond rhybuddiodd fod mwy i’w wneud wrth fynd i’r afael â’r amrywiadau.

“Mae graddfa’r gwelliannau yng Nghymru a Lloegr wedi rhagori ar yr hyn mewn rhai o wledydd Ewropeaidd eraill,” meddai.

“Er hyn, rhaid inni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau am fod amrywiaeth mewn canlyniadau yn y ddwy wlad yn parhau ac mae angen gwelliannau parhaus.”

Dywedodd hefyd y gallai rhai o blant yr archwiliad fod wedi cael eu saith prawf, ond nad oedd hynny wedi nodi yn eu cofnodion.

“Gallai hynny fod oherwydd nifer o resymau,” meddai, “gan gynnwys diffyg amser ac adnoddau.”