Rhieni'n galw am adfer gwasanaethau Cymraeg o'r crud
Bu protestwyr ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ardal yng Nghymru yn cael mynediad i wasanaethau sy’n annog teuluoedd i siarad Cymraeg.
Fis Mawrth daeth i’r amlwg fod y cynllun Twf yn dod i ben, a bod Llywodraeth Cymru am wario £200,000 yn llai ar drosglwyddo iaith ymysg rhieni newydd.
Dan y drefn newydd fe fydd y Mudiad Meithrin yn cael £500,000 i gynnal cynllun o’r enw ‘Cymraeg i Blant’.
Ond yn wahanol i’r hen drefn, ni fydd gweithgareddau i rieni ifanc a’u babis yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd na Môn dan y cynllun ‘Cymraeg i Blant’.
“Colled fawr”
“Mae hwn wedi bod yn golled fawr i ni fel teulu,” meddai Liz DeRosa-Heard wrth golwg360, mam oedd yn defnyddio gwasanaethau Twf yn ardal Wrecsam.
“Oeddwn ni’n arfer defnyddio sesiynau Twf, ac roedd hi’n naturiol i ni fynd i sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg, achos mae fy nheulu i’n ddwyieithog.
“Rwan, dwi yn mynd i sesiynau ond mae’n rhaid i fi fynd i sesiynau trwy gyfrwng Saesneg.”
‘Y Gymraeg ddim yn bwysig i’r llywodraeth’
Yn ôl Heledd Gwyndaf, cyflwynwraig gyda rhaglen Heno a Prynhawn Da ag sydd â phlant ifanc ei hun, mae angen i Lywodraeth Cymru “ddatblygu” gwasanaethau Cymraeg o’r crud yn ogystal â “rhoi’r £2,000’ yn ôl.”
“Mae’n wasanaeth sy’n hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith ddewisol i rieni sydd â phlant ifanc iawn,” meddai wrth golwg360.
“Mae Twf wedi datblygu perthynas agos â bydwragedd ac mae’r drafodaeth yn dechrau’n gynnar iawn yn y cartref o ran pa iaith mae pobol yn mynd i fagu eu plant.
“Mae’r toriadau yn dangos i ni nad yw’r iaith Gymraeg yn bwysig i Lywodraeth Lafur y Cynulliad.”
“Cyfle” y Llywodraeth
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod lefelau trosglwyddo’r iaith rhwng rhieni a’u plant yn gymharol isel ac yn cyfrannu at gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi eu penderfyniad a rhoi’r £200,000 yn ôl,” meddai David Williams, aelod o grŵp addysg y mudiad.
“Bydd y llywodraeth am ddweud mai penderfyniad y Mudiad Meithrin yw hyn neu fod bai ar Lywodraeth San Steffan am gwtogi’r arian sy’n dod i Gymru, ond penderfyniad Llywodraeth Cymru yw e ar ddiwedd y dydd.
“Mae cyfle nawr, yn ystod yr Eisteddfod, i ymateb i’n galwad a gwneud y cam bach pwysig yma gan wrthdroi eu penderfyniad ac adfer gwasanaeth Twf dros Gymru gyfan.”
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru:
“Mae trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn parhau yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn gweithredu ar lefel genedlaethol o ran hyrwyddo negeseuon am drosglwyddo iaith, a byddwn yn parhau i gydweithio â nifer o bartneriaid i sicrhau hyn.”