Castell Something Creatives (llun o wefan y cwmni)
Mae cwmni o Gaerdydd wedi lansio castell bownsio mwya’r byd mewn gŵyl gerddorol yn Southampton.

Mae lle i 100 o bobl ar y tro yn y castell sy’n dal 1,143 metr ciwbig o aer ac yn ôl y cwmni, Something Creatives, mae’n dalach na mur mawr China.

Mae’r cwmni’n disgrifio’u hunain fel partneriaeth o bobl greadigol sy’n gweithio mewn cerddoriaeth, celf, dylunio, bwyd, gwyliau, cyfathrebu, digwyddiadau a lleoliadau.

“Mae trefnwyr yr ŵyl Common People wedi helpu gwneud y syniad gwallgof gwych yma yn realiti,” meddai Matt the Hat o Something Creatives.

“Dylai pawb gael amser i chwarae gan fod chwarae yn rhan hanfodol o fywyd – os ydych chi’n ifanc neu’n hen, beth all fod yn fwy o hwyl na neidio o gwmpas yn y castell bownsio mwyaf yn y byd?”