Bydd y gwaith yn rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth, medd cyngor tref Cei Newydd
Mae cynlluniau gwerth £500,000 i wella’r cyfleusterau yng Nghei Newydd yng Ngheredigion wedi cael eu datgelu.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys glanfa newydd a gwella’r pier sydd yno ers 1835.
Diben y cynlluniau yw gwella mynediad cychod i’r harbwr.
Ond mae pryderon y gallai’r gwaith achosi cryn anghyfleustra yn y dref fach.
Mae cyngor tref Cei Newydd yn dweud y bydd y gwaith yn rhoi hwb i’r diwydiant twristiaeth, wrth i bobol ddod i weld dolffiniaid yr ardal.