Waldo Williams
Cafodd plac i gofio am un o gerddi enwocaf yr iaith Gymraeg, ei ddadorchuddio neithiwr ym mhentref Rhoscrowdder, ger Penfro.
Fe wnaeth y bardd Waldo Williams ysgrifennu ‘Cofio’ yn 1931 ar fferm ei gyfaill Willie Jenkins – Hoplas, ger y pentref.
Roedd Willie Jenkins yn ymgeisydd y blaid Lafur annibynnol bum gwaith yn Sir Benfro ac yn heddychwr a gafodd ei garcharu yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a’i frawd, Prys, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe, , oedd yn dadorchuddio’r plac.
Fe wnaeth eu tad, yr Athro T. J. Morgan, helpu i ryddhau Waldo Williams o’i orfodaeth filwrol pan oedd yn wynebu tribiwnlys gwrthwynebwyr cydwybodol yng Nghaerfyrddin yn 1942.
Yn dilyn y dadorchuddio, cafwyd darlith Saesneg gan yr Athro M. Wynn Thomas, o Brifysgol Abertawe, ar y testun ‘Waldo Williams and the nobility of poetry’.
Mae ‘Cofio’ yn gerdd sy’n llawn hiraeth ac angerdd am wareiddiadau sydd wedi mynd yn angof bellach, am eiriau diflanedig a chwedlau cain nad oes neb yn gwybod amdanyn nhw bellach.