Llun: Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2016, sef y brif wobr yng Nghymru ar gyfer awduron llyfrau plant a phobl ifanc, wedi mynd i nofel gyntaf awdur o Gaerdydd.
Fe dderbyniodd Griff Rowland ei wobr mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd fel rhan o gynhadledd CILIP yn Abertawe heno.
Mae’r nofel, ‘The Search For Mister Lloyd’ a gyhoeddir gan Candy Jar Books, yn sôn am ymgais Mostyn Price i ddod o hyd i’w golomen, Mister Lloyd, sydd heb ddychwelyd o ras.
Anrhydedd aruthrol
Yn ôl Griff Rowland, sydd yn wreiddiol o Fangor ond sydd bellach yn byw yn Nhreganna yng Nghaerdydd, ac sy’n gyfarwyddwr rhaglenni teledu a dramâu fel Coronation Street, Holby City a Hollyoaks, mae derbyn y wobr, a hithau’n dathlu ei deugeinfed pen-blwydd eleni, yn anrhydedd aruthrol.
Meddai Griff Rowland: “Mae’r daith rhwng dechrau sgrifennu stori a’i gweld mewn print yn un hir, felly mae’n braf iawn derbyn y wobr. Dyma fy nofel gyntaf, ac mae wedi bod yn dipyn o waith i mi gynhyrchu’r llyfr.
“Mae’n stori hynod ac annisgwyl am golomennod, ond roedd gen i ffydd yn y nofel ac yn yr hyn ro’n i’n ceisio’i fynegi. Fe’i sgrifennais bob yn dipyn, rhwng ysbeidiau o waith teledu. Heb wybod a fyddai unrhyw un yn hoffi’r stori, fe ddaliais ati am ei bod hi’n bwysig i mi.”
‘Sgwennu yn y teulu
Ychwanegodd: “Mae fy mam, Beryl Stafford Williams, yn nofelydd ac yn gyn-athrawes Saesneg; roedd ei thad hithau, Stafford Thomas, yn fardd; ac mae fy nhad, J Gwynn Williams, yn hanesydd ac yn gyn-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n amlwg bod llyfrau a storïau yn y gwaed!”
‘Codi Chwerthin’
Yn ôl Bethan M Hughes, Cadeirydd panel beirniadu Gwobr Tir na n-Og 2016: “Fersiwn gyfoes yw hon o stori’r dyn sy’n chwilio am yr hyn sydd tu hwnt i’w afael.
“Dyma nofel sy’n codi chwerthin ac yn cyffwrdd â’r galon bob yn ail, yn llawn penbleth a golygfeydd cofiadwy.”