Mellten Llun: Y Lolfa
Bydd comic newydd sbon yn cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint wythnos nesa – y comic Cymraeg gwreiddiol cyntaf i’w gyhoeddi ers degawdau.
Comic newydd chwarterol i blant Cymru yw Mellten ac mae wedi ei anelu at blant rhwng 7 ac 13 oed yn bennaf.
Wedi ei olygu gan y cartwnydd Huw Aaron, mae Mellten yn cynnwys cyfraniadau gan amryw o artistiaid, cartwnwyr ac awduron.
Meddai Huw Aaron mai’r syniad oedd creu rhywbeth newydd a gwreiddiol i blant fyddai ar gael yn y Gymraeg yn unig.
Bydd rhifynnau yn cynnwys straeon cyffrous mewn amrywiaeth o genres, cymeriadau gwreiddiol, posau, jôcs, cystadlaethau a chyngor i ddarllenwyr ar sut i greu comics eu hunain.
‘Cipio’r dychymyg’
Meddai Huw Aaron: “Bydd pwyslais ar straeon newydd, gafaelgar ac arlunio bywiog a lliwgar i lonni, dychryn, denu, sbarduno ac achosi plant i chwerthin ac i gipio eu dychymyg.
“Roeddwn i hefyd am geisio creu rhyw fath o gymuned barhaus y gallai plant ymwneud ag ef.”
Bydd rhifyn newydd o Mellten yn ymddangos pob tri mis gyda’r ail rifyn ar gael ar 1 Medi – ond bydd gwefan i’r comic hefyd gyda chynnwys newydd yn cael ei ychwanegu yn wythnosol.
Bydd modd prynu copïau unigol o gomic Mellten neu gellir tanysgrifio am £8 y flwyddyn drwy’r wefan, ysgolion neu siopau llyfrau lleol.
Bydd y lawnsiad yn cael ei gynnal ar stondin Y Lolfa ar faes yr Eisteddfod am 12 o’r gloch, dydd Llun Mai 30 yng nghwmni’r golygydd a’r cartwnydd Huw Aaron.