Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot Llun: PA
Mae cwmni dur Tata yn parhau i ystyried y ceisiadau a ddaeth i law i brynu busnesau’r cwmni yn y DU, yn ôl eu cyfarwyddwr gweithredol, Koushik Chatterjee.
Mae cwmnïau o’r DU, India, China a’r Unol Daleithiau wedi mynegi diddordeb ac mae disgwyl i restr fer gael ei llunio yr wythnos hon yn dilyn trafodaethau ym Mumbai.
Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai cwmnïau Excalibur, Liberty House a Greybull Capital fydd yn cyrraedd y rhestr fer.
Y ceffylau blaen
Grwp Stuart Wilkie, sy’n gweithio ar y safle ym Mhort Talbot, yw Excalibur. Mae’r grwp eisoes wedi rhybuddio y gallai hyd at 1,000 o swyddi gael eu colli pe baen nhw’n prynu’r busnes yn y DU, ac fe fyddan nhw’n awyddus i weithwyr fuddsoddi yn y busnes.
Perchennog Liberty House, Sanjeev Gupta oedd y cyntaf i fynegi diddordeb pan ddaeth y cyhoeddiad bod Tata yn bwriadu gwerthu’r busnes yn y DU. Mae lle i gredu y byddai Gupta yn newid y ffordd y mae’r cwmni’n cael ei redeg, gan roi pwyslais ar ailgylchu dur.
Mae Excalibur a Liberty House wedi bod mewn trafodaethau gyda’i gilydd, sydd wedi arwain at adroddiadau y gallen nhw fod yn barod i gyflwyno cais ar y cyd, ond mae Excalibur wedi wfftio’r adroddiadau, gan ddweud eu bod nhw wedi cyflwyno cais ar eu pen eu hunain.
Mae cwmni Greybull Capital newydd brynu safle Tata yn Scunthorpe, gan arbed miloedd o swyddi.
Mae lle i gredu bod gan gwmnïau JSW Steel, Hebel Iron and Steel, Endless, Nucor a ThyssenKrupp ddiddordeb hefyd, ond mae’n debyg nad yw ThyssenKrupp wedi cyflwyno cais.
‘Gwerthuso’
Dywedodd Chatterjee wrth y wasg yn India mai gwerthuso’r cwmnïau sydd wedi gwneud cais yw’r cam nesaf cyn dod i gytundeb. Ychwanegodd eu bod yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU.
Wrth i’r trafodaethau barhau, mae cannoedd o weithwyr dur wedi bod yn gorymdeithio yn San Steffan i ddangos eu bod nhw’n dal i roi pwysau ar Tata a Llywodraeth Prydain i achub y diwydiant dur. Bu arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn yn gorymdeithio gyda’r gweithwyr.