Llun: PA
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi rhybuddio y gallai’r gobaith o ddod o hyd i brynwr newydd ar gyfer safle cwmni dur Tata ym Mhort Talbot bylu pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw sylwadau Cairns ar drothwy gorymdaith gweithwyr dur drwy ganol Llundain ac wrth i drafodaethau’r cwmni barhau yn eu pencadlys ym Mumbai yn y gobaith o lunio rhestr fer o brynwyr posib ar gyfer asedau’r cwmni yn y DU.

Mae’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal ar Fehefin 23.

Yn ystod sesiwn holi, gofynnodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams i Alun Cairns a fyddai’n tynnu sylw at y manteision i fusnesau, swyddi ac economi Cymru o aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Atebodd Alun Cairns fod 69% o’r dur sy’n cael ei gynhyrchu yng ngwledydd y DU yn cael ei allforio i wledydd yr Undeb Ewropeaidd, a bod mynediad i’r farchnad Ewropeaidd yn “sylfaenol ar gyfer y diwydiant dur” ac i ddod o hyd i brynwr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru ei fod e wedi tynnu sylw at hynny pan wnaeth e gyfarfod ag arweinwyr busnes yn Abertawe yr wythnos diwethaf.

Mae Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Sajid Javid a Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi teithio i Mumbai ar gyfer y trafodaethau.

Wfftio ‘Brexit’

Yn y cyfamser, mae Aelod Seneddol Mynwy, David TC Davies wedi dweud y byddai Cymru’n well ei byd pe bai’r DU yn gadael Ewrop.

Cyfeiriodd at adroddiad Prifysgol Caerdydd sy’n honni bod Prydain yn talu £10 biliwn y flwyddyn i Frwsel am gael bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd David TC Davies y gallai Cymru elwa o £0.5 biliwn ychwanegol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Ond dywedodd Alun Cairns fod hynny’n “diystyru” yr effaith negyddol ar Gymru sydd wedi cael ei grybwyll gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF),  y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a Banc Lloegr.

Ychwanegodd y byddai Cymru’n colli £2 biliwn a 24,000 o swyddi, ac na allai Cymru “fforddio cymryd y cam”.