Llys y Goron Caerdydd
Mae tad a dau aelod o’r un teulu o Dredelerch yn ne Cymru wedi’u cael yn euog o orfodi dyn digartref i weithio yn erbyn ei ewyllys am fwy nag ugain mlynedd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw fod Michael John Hughes, 46 oed, wedi dod i dde Cymru o’r Alban er mwyn ceisio “bywyd gwell” ond fe gafodd ei “brynu” gan Patrick Joseph Connors, 59 oed, i weithio am gyn lleied â £5 y dydd.
Doedd Michael John Hughes ddim wedi dweud yr un gair am ei amodau tan ddwy flynedd yn ôl. Clywodd y llys fel y byddai’n cael ei fwrw os nad oedd yn dilyn ei orchmynion ac fel yr oedd yn rhaid iddo fyw mewn amodau gwael.
Mae’r tad, Patrick Joseph Connors, ei fab Patrick Dean Connors, 39 oed, a’i nai William Connors, 36 oed wedi’u cael yn euog heddiw o gyhuddiad o lafur gorfodol rhwng 2010 a 2013.
Yn ogystal, mae’r tad Patrick Joseph Connors wedi’i ddyfarnu’n euog o wyth achos o achosi niwed corfforol, pedwar achos o gipio ac un achos o gynllwynio i herwgipio.
Cafodd Patrick Joseph Connors ei garcharu am 14 mlynedd, Patrick Dean Connors ei garcharu am chwe blynedd a hanner a bydd William Connors yn gorfod treulio pedair blynedd dan glo.
Achos arall
Clywodd y llys hefyd fod dyn arall, sy’n cael ei alw’n Mr K am resymau cyfreithiol, wedi cael ei gipio o leiaf pedair gwaith ar ôl ceisio dianc.
Roedd datganiad ar ran y dioddefwr Mr K yn disgrifio Connors fel “anifail” gan ddweud fod blynyddoedd o ddiffyg maeth wedi arwain at ddatblygiad ei gyflwr, osteoporosis.
Cafwyd mab yng nghyfraith Patrick Joseph Connors, sef Lee Christopher Carbis, 34 oed, yn ddieuog o gyhuddiadau o lafur gorfodol yn erbyn Michael John Hughes, ond yn euog o gipio Mr K.
Hawliau dynol ‘mwyaf sylfaenol’
Dywedodd Catrin Evans, Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru fod y dioddefwyr wedi eu trin fel “nwyddau i’w defnyddio fel oedd y diffynyddion yn dymuno.”
“Fe gawsant eu cadw mewn amodau byw ofnadwy a’u bygwth yn gyson â thrais os oedden nhw’n ceisio dianc,” meddai.
“O ganlyniad, fe barhaodd un dioddefwr o dan reolaeth y Connors am fwy nag 20 mlynedd, gyda’r ail yn llwyddo i ddianc ar ei bedwaredd ymgais.
“Dylai’r rheiny sy’n ceisio bychanu gwerth bywyd trwy amddifadu eraill o’r hawliau dynol mwyaf sylfaenol fod yn sicr y byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â nhw o flaen eu gwell.”
‘Adnabod yr arwyddion’
Dywedodd Uwch Arolygydd Heddlu Gwent, Paul Griffiths, a arweiniodd yr ymchwiliad, fod troseddau tebyg yn gadael “effaith sy’n para ar ddioddefwyr – nid yn unig y dirywiad corfforol, ond seicolegol hefyd.”
“Mewn achosion fel hyn, mae dioddefwyr yn ofni’r bobol sy’n eu rheoli nhw. Dyna pam mae angen help y cyhoedd. Yn aml, gall y bobol sy’n byw yng nghalon ein cymunedau adnabod yr arwyddion o ecsbloetio a’r rheiny nad sy’n medru helpu eu hunain.”