Ar ôl i Gymdeithas yr Iaith wneud cwyn i’r BBC ynglŷn â rhaglen o’r gyfres, Week In Week Out, mae’r gorfforaeth wedi penderfynu peidio â chynnwys amcangyfrif o effaith ariannol y Safonau Iaith.
Fe fyddai’r rhaglen heno ‘The Cost of Saving the Welsh Language’ wedi cynnwys “data gwallus” yn ôl ymgyrchwyr iaith, a fyddai wedi cam-brisio’r gost o gyflwyno’r Safonau Iaith.
Roedd Week In Week Out wedi amcangyfrif y gallai gostio miliynau o bunnoedd i gyflwyno’r Safonau Iaith, gan ddefnyddio ffigurau yn asesiad effaith Llywodraeth Cymru, er bod y llywodraeth ei hun wedi dweud nad yw’r data’n ddigon cywir i gael ei ddefnyddio.
‘Data sydd ddim yn gadarn’
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Darlledwyd amcangyfrif o gost posib cyflwyno’r Safonau Iaith y bore ’ma, cyn darlledu rhaglen Week In Week Out heno. Cafodd yr amcangyfrif ei seilio ar ddata sydd ddim yn gadarn ac rydym wedi ei hepgor o’r rhaglen a’r erthyglau arlein bellach. Hoffem ymddiheuro am y camgymeriad.”
Roedd Cymdeithas yr Iaith a chyn-ystadegydd â Chomisiynydd y Gymraeg, Hywel Jones, wedi beirniadu’r rhaglen am ddefnyddio “data gwallus i wneud symiau cefn amlen.”
Y rhaglen
Bydd y rhaglen yn dal i gael ei darlledu heno, ond gyda’r amcangyfrifon ariannol wedi’u tynnu ohoni.
Mae’n codi’r cwestiwn “a yw arian yn cael ei wario’n deg mewn ardaloedd lle mae ychydig o Gymraeg yn cael ei siarad.”
Bydd hi hefyd yn edrych ar y Gymraeg yn ei chadarnleoedd, gan ofyn a yw hi’n bryd “ail-feddwl sut mae’r Gymraeg yn cael ei chefnogi” yno, o ystyried y cwymp yn nifer y bobl sy’n siarad yr iaith.
‘Pryderon o hyd’
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eu bod yn croesawu’r newidiadau i’r rhaglen ond bod
“pryderon o hyd am y rhaglen ac am ba mor gytbwys yw hi.”
“Mae newyddiaduriaeth anghyfrifol o’r math yma yn creu tensiynau cymunedol – mae niwed wedi cael ei achosi oherwydd y straeon ar y radio y bore ’ma. Dyw hyn ddim yn ddigwyddiad unigryw, mae rhaid i’r BBC ail-edrych ar eu prosesau mewnol yn ogystal ag ymwybyddiaeth iaith ymysg eu staff.”
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Oherwydd amseru’r rhaglen a’r stori hon, sef yn ystod cyfnod ble mae’r Comisiynydd yn ystyried y ceisiadau i ddyfarnu mewn cysylltiad â heriau, nid yw’n briodol iddi wneud sylw am gostau ar hyn o bryd.”
Bydd Week In Week Out – The Cost of Saving the Welsh Language yn cael ei darlledu heno (nos Fawrth) am 10:40yh.