Bydd y corff sy’n ariannu prifysgolion Cymru yn rhoi’r gorau i gyllido astudiaethau ôl-radd rhan amser yn dilyn toriadau i’w gyllideb.
Yn ôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), bydd ei gyllideb ar gyfer 2016/17 yn canolbwyntio ar ddarpariaeth israddedig ran amser ac ymchwil.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael clywed hefyd y bydd yn colli traean o’i gyllideb gan y Cyngor.
£6 miliwn fydd ar gael i’r Coleg a’i raglen ysgoloriaeth ar gyfer 2016/17.
Mae’r toriadau yn dal i wasgu ar y corff, hynny ar ôl iddyn nhw dderbyn £11m yn llai gan Lywodraeth Cymru yn ei chyllideb flynyddol, er nad oedd y gostyngiad mor wael ag y gallai fod.
Rhannu’r gyllideb
Wrth gyhoeddi sut fyddai’n gwario’i gyllideb gwerth £132m, dywedodd HEFCW y byddai £80m (60% o’i gyllid) yn mynd ar gyfer ymchwil mewn prifysgolion.
Bydd £27m yn mynd tuag at gyrsiau israddedig rhan amser, £15m i gyrsiau israddedig llawn amser “drud”, fel meddygaeth, deintyddiaeth a pherfformio, a £10m ar gyfer buddsoddiadau strategol.
“Gan ddefnyddio cyllid CCAUC (HEFCW), gall prifysgolion a darparwyr addysg uwch eraill barhau i sicrhau bod cyrsiau rhan amser mor hygyrch â phosib drwy gadw’r costau i lawr,” meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr y corff.
“Mae’n rhaid i’r cyrsiau hyn barhau i fod yn opsiwn atyniadol i fyfyrwyr nad yw eu hamgylchiadau’n addas i gwrs llawn amser.
“Gall cost gynyddol y grant ffioedd hyfforddi gael effaith bellach ar y dyraniadau cyllid yma.
“Bydd canfyddiadau adolygiad annibynnol yr Athro Syr Ian Diamond o gyllid addysg uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr yn allweddol fel sail i bolisïau yn y dyfodol sy’n sicrhau cydbwysedd cynaliadwy o fuddsoddiad rhwng myfyrwyr Cymru a darparwyr addysg uwch Cymru.”
Beirniadu Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb i gyllideb HEFCW, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu polisi Llywodraeth Cymru o dalu ffioedd dysgu myfyrwyr sy’n gadael Cymru i fynd i Loegr.
Mae’r ffigurau diweddaraf gan gwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dangos bod £90m wedi mynd at sefydliadau addysg uwch sydd ddim yng Nghymru yn 2014/15.
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos yn glir yr arian mawr sy’n cael ei anfon at Brifysgolion Lloegr, wrth i Weinidogion Cymru barhau â pholisi sydd ddim yn gynaliadwy yn ôl arbenigwyr a chyrff addysgol,” meddai Angela Burns AC o’r blaid.
“Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn dal i wrthod rhoi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr i ddelio â chostau byw – y gwir broblem sy’n effeithio ar fynediad i addysg uwch.
“Yn amlwg, mae’r sefyllfa yn mynd y tu hwnt i reolaeth, a rhaid i Ysgrifennydd Addysg Democratiaid Rhyddfrydol Llafur gynnig ateb i’r broblem, a chynnig cymorth mwy cynaliadwy, ond effeithiol, i fyfyrwyr cyn gynted â phosib.”
Kirsty Williams, unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig erbyn hyn, yw Ysgrifennydd Addysg Cymru.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.