Oni bai bod Cyngor Môn yn gallu darbwyllo cynghorau tref a chymuned i gymryd cyfrifoldeb dros doiledau cyhoeddus y sir, mae’n debygol y bydd yn rhaid iddyn nhw gau.

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw 17 o doiledau cyhoeddus erbyn hyn ac yn dilyn toriadau ariannol sy’n dal i “frathu”, mae wedi cynnig rhoi’r toiledau i gynghorau tref a chymuned y sir.

Eisoes mae’r awdurdod wedi ysgrifennu at y cynghorau perthnasol, gan ofyn iddyn nhw fynegi diddordeb erbyn 1 Gorffennaf. Os na fydd cais yn dod, bydd rhaid i’r toiledau gau.

Daw’r cam hwn yn dilyn penderfyniad tebyg gan Gyngor Gwynedd, sydd am gael gwared â 50 o 73 o’i doiledau cyhoeddus <http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/224637-cynlluniau-i-gael-gwared-ar-rhan-fwyaf-o-doiledau-gwynedd>, oni bai bod y cynghorau tref a chymuned yn camu i’r adwy.

 “Penderfyniadau anodd”

“Rydym yn mynd i orfod gwneud llawer o benderfyniadau anodd ar flaenoriaethau ariannu cyn ein cyllideb nesaf,” meddai Pennaeth Priffyrdd, Rheoli Gwastraff ac Eiddo Ynys Môn, Dewi Williams.

“Ac oherwydd nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor Sir i redeg toiledau cyhoeddus, maent unwaith eto dan y chwyddwydr.

“Nid oes unrhyw un eisiau gweld toiledau cyhoeddus yn cau ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio’n galed gyda chynghorau lleol a phartneriaid eraill i ddiogelu llawer ohonynt.

“Rydym yn gobeithio y bydd yna gryn ddiddordeb yn y cynnig newydd ac y byddwn yn gallu gweithio gyda chymunedau i sicrhau bod cymaint o doiledau cyhoeddus ag sy’n bosibl yn cael eu cadw ar agor.”

Pecynnau gwybodaeth

Bydd cynghorau sydd â diddordeb yn derbyn Pecyn Gwybodaeth am y toiledau cyhoeddus perthnasol ac enghraifft o Gytundeb / Prydles dros y toiledau hynny.

Bydd angen iddyn nhw wedi cwblhau Cytundeb Cyfreithiol a’i ddychwelyd i’r Cyngor Sir erbyn 30 Tachwedd 2016.

“Nid ydym am gyrraedd sefyllfa lle bydd yn rhaid cau toiledau,” ychwanegodd y deilydd portffolio Rheoli Gwastraff, y Cynghorydd John Arwel Roberts.

“Rydym yn mawr obeithio y gallwn ddod o hyd i ateb trwy weithio gyda’r gymuned i ddarparu gwasanaeth toiledau cyhoeddus a chwrdd â’r her ariannol ar yr un pryd.”