Mae awduron adroddiad ar ddyfodol Neuadd Breswyl Pantycelyn wedi galw ar Brifysgol Aberystwyth i’w hadnewyddu a’i hailagor fel llety ar gyfer 200 o fyfyrwyr cyfrwng Gymraeg.

Cafodd y neuadd breswyl ei chau gan y brifysgol llynedd yn dilyn pryderon diogelwch, ac oherwydd yr angen i wneud gwaith atgyweirio sylweddol iddi.

Ond mae tasglu Bwrdd Prosiect Pantycelyn nawr wedi cyflwyno adroddiad yn manylu ar gynlluniau newydd y maen nhw’n dweud allai weld y neuadd yn ailagor erbyn 2019.

Yn ôl yr adroddiad fe allai’r opsiwn sydd yn cael ei ffafrio, fyddai’n gweld 200 o stafelloedd en suite yn cael eu hadeiladu, yn costio £10.4miliwn.

En suite i gyd

Mae’r tasglu yn cynnig dau opsiwn ar gyfer y neuadd, sef llety o 200 ystafell en suite, neu lety o 114 ystafell en suite a 85 ble bydd preswylwyr yn rhannu cyfleusterau.

Ond maen nhw yn ffafrio’r opsiwn o 200 ystafell en suite, gan ddweud y byddai hynny’n caniatáu coridorau cymysg o fechgyn a merched.

Er bod “costau cyfalaf uwch i ddarparu cyfleusterau en suite ym mhob ystafell wely”, yn ôl yr adroddiad, byddai hynny’n sicrhau bod modd “cynnig y ddarpariaeth orau ar gyfer gofynion cenedlaethau’r dyfodol”.

Roedd argymelliadau hefyd i gadw’r neuadd yn llety wedi’i arlwyo, sicrhau bod digon o ofodau cymdeithasol, a gwella diogelwch ar gyfer preswylwyr.

Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd bod “cyflwr gwael y cyfleusterau preswyl yno” yn un o’r rhesymau pam nad oedd mwy o Gymry Cymraeg yn gwneud cais i aros yno yn y blynyddoedd cyn i’r neuadd gau yn 2015.

‘Niwed i enw da’

Mae’r adroddiad hefyd yn honni bod y penderfyniad i gau’r neuadd llynedd, yn sgil protestiadau niferus gan y myfyrwyr, wedi gwneud “cryn niwed i enw da Prifysgol Aberystwyth mewn nifer o gylchoedd dylanwadol”.

Ychwanegwyd fod llawer o gyn-fyfyrwyr Pantycelyn a’r coleg yn “ffigyrau blaenllaw ym mywyd gwleidyddol, economaidd a diwylliannol Cymru, a thu hwnt”, ac y byddai methiant i wireddu’r ymrwymiad i ailagor erbyn 2019 yn niweidio delwedd y brifysgol ymhellach.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod Prifysgol Aberystwyth wedi cytuno â’r Coleg Cymraeg i osod targedau ar gyfer nifer y myfyrwyr oedd yn astudio rhan o’u cyrsiau drwy’r Gymraeg, a bod neuadd breswyl Cymraeg ei hiaith yn gynorthwyol iawn wrth geisio cyrraedd y nod hwnnw.

Cyngor yn penderfynu

Fe alwodd y Bwrdd Prosiect ar i Gyngor y Brifysgol gymeradwyo’u hargymhelliad nhw, ac i ymrwymo unwaith eto eu bod yn bwriadu ailagor Neuadd Pantycelyn ymhen tair blynedd.

Mae disgwyl hefyd i’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg barhau i aros yn neuadd gyfagos Penbryn, ble maen nhw wedi bod ers i Bantycelyn gau, hyd nes y bydd y neuadd newydd yn barod ar eu cyfer.

Bydd yr argymhellion yn yr adroddiad nawr yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol yr wythnos nesaf, ac fe fydd hefyd angen sêl bendith Cyngor y Brifysgol cyn bwrw ymlaen â’r gwaith.

“Daw cyhoeddi adroddiad y Bwrdd Prosiect yn sgîl misoedd o waith ymgynghori â myfyrwyr a rhanddeiliaid allweddol ar frîff dylunio hyfyw, ac rydym wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r modd y gellid cyflawni’r brîff dylunio ym Mhantycelyn,” meddai Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i holl aelodau’r Bwrdd Prosiect am eu hymroddiad i’r gwaith hwn dros y misoedd diwethaf. Rwy’n hynod falch hefyd ein bod yn gwbl unfryd o ran ein hargymhellion i Gyngor y Brifysgol.”

Myfyrwyr wedi’u plesio

Roedd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Hanna Merrigan, hefyd yn rhan o’r Bwrdd Prosiect ac mae’r adroddiad wedi cael ei gymeradwyo gan gynrychiolwyr presennol y myfyrwyr.

“Mae adroddiad y Bwrdd Prosiect yn cydnabod cyfraniad Pantycelyn i’r Brifysgol, Aberystwyth a Chymru ers iddi ddod yn neuadd cyfrwng Cymraeg bwrpasol yn 1973, a’r rôl y gall Pantycelyn ar ei newydd wedd ei chwarae fel canolbwynt gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol,” meddai Hanna Merrigan.

“Rwy’n croesawu’r ffaith bod y brîff dylunio arfaethedig wedi’i ddatblygu ar sail ymgynghoriad gyda myfyrwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, ac rwy’n edrych ymlaen i weld Cyngor y Brifysgol yn cefnogi argymhellion y Bwrdd Prosiect fel y gellir datblygu’r cynlluniau cyffrous hyn.”