Bydd elusen Gristnogol Housing Justice yn lansio ei helusen yng Nghymru eleni, gan fod yn “gyfaill beirniadol” i Lywodraeth Cymru.
Y nod fydd gweithio gyda’r llywodraeth i fynd i’r afael ag “anghenion pobol” am dai fforddiadwy.
Hyd yma mae’r elusen wedi gweithredu yn Lloegr yn bennaf, a bydd y cam hwn i greu sefydliad ar wahân yng Nghymru yn ymateb i “annibyniaeth” Cymru ar faterion fel tai a llety, meddai.
Mae’r penderfyniad hefyd yn dathlu 60 mlynedd ers sefydlu’r elusen ar ei ffurf wreiddiol – y Catholic Housing Aid Society.
Cyfarwyddwr newydd yr elusen yma yng Nghymru yw Sharon Lee, a fydd yn “datblygu cysylltiadau ar draws Cymru” ac yn cynnig “ymatebion ymarferol i ddigartrefedd ac anghenion pobol am lety”.
“Mae gan eglwysi a mudiadau Cristnogol ran allweddol yn y gwaith o ddatrys yr angen am gartrefi yng Nghymru,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r gwaith hwn a helpu’r eglwysi i feithrin gwell cysylltiadau â’r sector tai. Bydd Housing Justice Cymru yn llais Cristnogol cryf wrth ymgyrchu i ddileu digartrefedd a diffyg llety safonol fforddiadwy.”
Digartrefedd yng Nghymru
Bydd Housing Justice yn trafod â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fynd i’r afael â digartrefedd – problem sydd yn dal i fodoli yma.
Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2015, roedd 2,110 o deuluoedd yn ddigartref. 44%, neu 925 o’r rhain a gafodd gymorth i ddod o hyd i lety dros dro, oedd ond yn para chwe mis.
Tipyn o her i’r elusen a’r Llywodraeth newydd felly, ond mae’n gyfnod “cyffrous” i Housing Justice hefyd, yn ôl cadeirydd Bwrdd yr elusen, Y Gwir Parchedig James Langstaff, sydd hefyd yn Esgob Rochester.
“Dyma amser cyffrous i Housing Justice wrth iddo barhau i dyfu a datblygu ei waith,” meddai.
“Mae gan Gynulliad a Llywodraeth Cymru annibyniaeth sylweddol o ran tai a llety, ac mae’n bwysig fod gan Housing Justice bellach ei fudiad ei hun i ymwneud â hyn yng Nghymru.”
Bydd yr elusen, a fydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac yn cyflogi un aelod o staff, yn lansio’n swyddogol yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.