Ian Jones - newid meddwl (llun 360)
Bedair blynedd ers i S4C gau ei gwasanaeth HD – Clirlun – mae’r sianel wedi penderfynu lansio darpariaeth ‘High Definition’ eto, a hynny mewn pryd ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed Euro 2016 eleni.
Yn ôl y sianel, dyw hi ddim bellach yn “gynaliadwy” i barhau i ddarlledu heb wasanaeth o’r fath, ere u bod wedi cael gwared arno yn 2012 oherwydd yr angen i dorri ar wario.
Felly o 7 Mehefin ymlaen, bydd holl gynnwys y sianel genedlaethol ar gael ar ffurff clirlun i rai, sy’n golygu y dylai fod yn gliriach ac yn gwella safon lliw y sgrin.
Talu’r pris
Mae’r ffaith fod Llywodraeth Prydain wedi cytuno i gynnal cyllid S4C ar yr un lefelau â 2015/16 am y flwyddyn nesa’ wedi “helpu” i allu’r sianel i lansio’r gwasanaeth, yn ôl Prif Weithredwr y sianel, Ian Jones.
“Mae gweddill yr arian (am y gwasanaeth newydd) wedi gorfod dod o’n cyllideb ehangach,” meddai ond does dim cyhoeddiad am gost dileu ac wedyn ailddechrau.
Ychwanegodd Ian Jones ei fod yn “gobeithio” gweld yr Adolygiad Annibynnol ar S4C ddechrau’r flwyddyn nesa’ yn “ystyried” pwysigrwydd y sianel i barhau’n “gyfoes ac yn gystadleuol”.
Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ym mhencadlys S4C heddiw i glywed mwy am y gwasanaeth.
‘Gwasanaeth eilradd’ yn annerbyniol
Er na fydd S4C HD ar gael i bawb, mae Prif Weithredwr y sianel, Ian Jones, yn cydnabod bod y gwasanaeth yn “bwysig” i wylwyr teledu heddiw.
“Dyw hi ddim yn dderbyniol i ni fod gwylwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaeth sydd yn eilradd o ran safon y llun o’i gymharu â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill,” meddai.
“Gyda chwaraeon byw yn enwedig, a mathau eraill o raglenni hefyd, mae gwylwyr yn sylwi ar y gwahaniaeth rhwng llun arferol ac HD, ac oherwydd hynny maen nhw’n dewis troi at sianeli HD.”
- Bydd y gwasanaeth, S4C HD, ar gael i wylwyr Sky a Freesat yng Nghymru ac ar draws y DU. I wylwyr gwasanaeth Virgin, dim ond gemau Euro 2016 fydd ar gael ar ffurf HD a fydd y gwasanaeth ddim ar o gwbl ar sgriniau teledu Freeview.