Gwaith dur Tata, ym Mhort Talbot, Llun: PA

Pe bai’r DU yn aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) byddai’n cynyddu’r siawns o ddod o hyd i brynwr ar gyfer busnes cwmni dur Tata, yn ôl Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.

Mae saith grŵp wedi dangos diddordeb mewn prynu safleoedd dur y cwmni o India yn y DU – gan gynnwys ei waith dur ym Mhort Talbot sy’n cyflogi tua 4,000 o bobl.

Mewn araith yn Stadiwm Liberty, Abertawe, dywedodd Alun Cairns ei fod yn pryderu na fyddai gymaint o ddiddordeb mewn prynu’r safleoedd petai pobl yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm fis nesaf.

Cefndir

Penderfynodd Tata Steel werthu ei safleoedd yn y DU yn gynharach eleni ac mae’r cwmni’n gobeithio cael gwerthiant cyflym.

Nid yw Tata wedi gosod terfyn amser ar gyfer unrhyw gytundeb, ond maen nhw wedi ei gwneud yn glir na allant gynnal colledion honedig o £1 miliwn y dydd am gyfnod hir.

Yn gynharach y mis hwn, daeth cadarnhad bod yr holl gynigwyr ar gyfer y safleoedd yn y DU â diddordeb mewn prynu’r busnes cyfan. Mae’r gwerthiant yn cynnwys y safle ym Mhort Talbot, gwaith dur mwyaf y DU, yn ogystal â safleoedd yng Nghasnewydd a Rotherham.

UE yn bwysig i’r economi ehangach

Fodd bynnag, rhybuddiodd Alun Cairns y gallai gadael yr UE weld y diwydiant dur yn dioddef ymhellach oherwydd tariffau allforio i’r UE.

Yn ystod ei araith i aelodau Siambrau Fasnach De Cymru, dadleuodd Alun Cairns hefyd fod yr UE yn bwysig i’r economi ehangach yng Nghymru  ac yn hanfodol i’r diwydiant amaeth gan fod yr UE yn derbyn dros 90% o allforion amaethyddol Cymru.

UE yn cyfyngu’r cymorth sydd ar gael

Ond mae llefarydd ar ran Vote Leave Cymru wedi taro nôl gan ddweud bod yr UE yn cyfyngu’r hyn y gallai Llywodraethau Cymru a’r DU ei wneud i roi cymorth i’r diwydiant dur gan nad oes pŵer i osod prisiau dur ac amddiffyn cwmnïau Cymru yn erbyn allforion rhad o Tsieina.

Meddai’r llefarydd y byddai Cymru mewn lle gwannach i helpu diwydiannau sydd angen cymorth yn y dyfodol petai pobl yn pleidleisio i aros yn rhan o’r DU.