John Sabine Llun: Heddlu De Cymru
Mae crwner yn y cwest i farwolaeth dyn y cafwyd hyd i’w gorff 18 mlynedd ar ôl iddo ddiflannu wedi dyfarnu ei fod wedi’i ladd yn anghyfreithlon.

Cafwyd hyd i gorff John Sabine, a fyddai wedi bod yn 85 oed erbyn hyn, wedi’i lapio mewn gorchudd plastig ar dir y tu ôl i fflatiau yn Nhrem-y-Cwm, Beddau ar 24 Tachwedd y llynedd.

Y gred yw mai ei wraig, Ann Sabine, oedd wedi’i ladd. Bu hi farw ganser ar 30 Hydref y llynedd – dim ond 25 diwrnod cyn i sgerbwd ei gwr gael ei ddarganfod.

Heddiw, clywodd y cwest yn Aberdâr bod John Sabine wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w ben.

Dangosodd profion fforensig bod amlinelliad cerflun o froga a gafodd ei ddarganfod yn yr eiddo yn gyson â’r anafiadau i ben John Sabine.

Mae’r crwner wedi cofnodi rheithfarn o ladd anghyfreithlon.