Y ffermwr Rhodri Lloyd-Williams yn siarad â'r criw newyddion o Ddenmarc (llun:Hybu Cig Cymru)
Cig oen o Gymru fydd un o’r prif destunau dan sylw ar un o brif raglenni newyddion Denmarc heno.

Bydd yr eitem ar Newyddion 10 y wlad yn canolbwyntio ar fasnach Ewropeaidd ac yn rhoi sylw i deulu Lloyd-Williams ym Moelgolomen, fferm organig ar dir uchel ym Mont-goch ger Aberystwyth.

Yn ôl Rhodri Lloyd-Williams, perchennog y fferm, bydd yn “wych” i gynulleidfa oriau brig weld “yr amgylchedd naturiol hardd lle mae’r cig yn cael ei gynhyrchu”.

Daw hyn wrth i Hybu Cig Cymru ddweud bod mwy o bobol Denmarc yn dod i adnabod statws ac ansawdd cig oen Cymreig, a bod gwledydd Sgandinafia yn dod yn fwy pwysig i’r farchnad.

Statws cig oen Cymreig

“Mae ymchwil marchnata yn awgrymu bod archfarchnadoedd a defnyddwyr yn cymryd sylw o’r neges,” meddai Alex James, Swyddog Datblygu’r Farchnad Allforio gyda Hybu Cig Cymru.

“Mae’r ffaith bod prif rwydwaith teledu Denmarc, DR, wedi dewis cynnwys fferm yng Nghymru ar gyfer eitem ar ei brif raglen newyddion yn brawf o’r ymwybyddiaeth gynyddol o Gig Oen Cymreig.”

Statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) sy’n gwneud cig oen o Gymru yn arbennig yn ôl y cwmni marchnata.

Mae’n golygu mai dim ond cig o ddefaid sydd wedi’u geni a’u magu yng Nghymru ac sydd wedi’u lladd mewn lladd-dai wedi’u cymeradwyo sydd â’r hawl i gael ei alw’n Gig Oen Cymreig.