Kirsty Williams, Llun: Gwefan y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae awgrym heddiw y gall Kirsty Williams, unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, fod yn rhan o lywodraeth leiafrifol Llafur.

Mae cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael ei gweld ar bumed lawr y Cynulliad heddiw, y man lle fydd Llywodraeth nesaf Cymru yn cwrdd wrth i dymor newydd o bum mlynedd ddechrau eto.

Erbyn hyn, mae Plaid Cymru a Llafur wedi cadarnhau mai “gweinyddiaeth Lafur leiafrifol” fydd yn llywodraethu yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mai Carwyn Jones fydd y Prif Weinidog.

‘Talentog’

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Alun Davies, AC Llafur dros Blaenau Gwent y byddai’n “hapus iawn” o weld Kirsty Williams yn ymuno â’r llywodraeth.

“Buaswn i’n hapus iawn delio â Kirsty Williams, dwi’n credu bod hi’n aelod hynod o dalentog, ond mater personol i mi yw hynny, dwi heb drafod hynny ag unrhyw un o fy mhlaid,” meddai ar raglen y Post Cyntaf wythnos ddiwethaf.

Plaid a Llafur yn dod i gytundeb

Trwy’r bore, mae cyfarfodydd wedi bod yn y Cynulliad wrth i Lafur a Phlaid Cymru gyflwyno eu cynigion i’w Haelodau Cynulliad, yn dilyn trafod rhwng y ddwy blaid.

Mae’r ddwy blaid bellach wedi dod i gytundeb, gan gyhoeddi datganiad ar y cyd yn nodi mai Llywodraeth leiafrifol Llafur fydd wrth y llyw.

Daw hyn ar ôl i Carwyn Jones, arweinydd Llafur Cymru, fethu â sicrhau digon o bleidleisiau i gael ei ail-ethol yn Brif Weinidog Cymru yn y siambr.

Ar ôl i Blaid Cymru enwebu eu harweinydd nhw, Leanne Wood, cafodd y ddau ymgeisydd bleidlais gyfartal, ar ôl i aelodau Ceidwadol a UKIP y Cynulliad roi eu pleidlais iddi hi.

Roedd Kirsty Williams wedi pleidleisio dros Carwyn Jones, gan ddweud na fyddai’n “cefnogi clymblaid o wehilion”.