Ysgol Penfro (Llun yn y parth cyhoeddus)
Mae Prifathro Ysgol Penfro yn Noc Penfro wedi talu teyrnged i ddisgybl blwyddyn deg a fu farw ar dir gerllaw safle’r ysgol ddydd Llun, Mai 16.

Nid yw enw’r bachgen wedi’i gyhoeddi eto ond, yn ôl y prifathro Frank Ciccotti, roedd e’n ddisgybl oedd “yn uchel iawn ei barch a chyda llawer o ffrindiau agos.”

“Roedd yn gymeriad annwyl, cwrtais a pharchus, ac roedd yn alluog gyda’r potensial i gyflawni’n dda. Fe fyddwn ni’n ei golli’n fawr iawn,” meddai.

Ychwanegodd Frank Ciccotti fod gweithwyr cefnogi a chynghori wedi cynorthwyo disgyblion a staff yr ysgol wedi’r “digwyddiad trasig,” ynghyd â’r heddlu, yr awdurdod lleol a’r eglwysi lleol.

“Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gyda’i ffrindiau a’i deulu,” ychwanegodd y prifathro gan ddweud eu bod yn cynnal cyfres o wasanaethau arbennig yn yr ysgol.

Mae ymchwiliadau’r Crwner a’r heddlu yn parhau, ac nid oes manylion pellach wedi’i ryddhau.