Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd y bore yma yn ardal Caerffili.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r A467 ger y Tŷ Du (Rogerstone) tua 9.05 y bore, dydd Llun Mai 16.

Cafodd dyn 26 oed o ardal Argoed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heol ynghau wrth i’r heddlu barhau â’u hymchwiliadau.