Yn dilyn wythnos gyntaf gythryblus yn y Cynulliad, mae aelodau Llafur a Phlaid Cymru yn cyfarfod heddiw i gynnal tarfodaethau ffurfiol.

Bydd Jane Hutt, ar ran y Blaid Lafur, yn cyfarfod gyda Simon Thomas, Plaid Cymru, am hanner dydd heddiw i geisio canfod ffordd ymlaen.

Echddoe fe fethodd Carwyn Jones yn ei ymgais i gael ei ail-ethol yn Brif Weinidog Cymru, wedi i Ukip a’r Ceidwadwyr gefnogi Leanne Wood.

Roedd y Lib Dem Kirsty Williams wedi fotio dros Carwyn Jones, a’r si lawr yn y Bae yw ei bod hi am gael cynnig lle fel gweinidog yng nghabinet Llywodraeth Lafur, os ddaw honno i rym eto.

29-29

Daw’r trafodaethau ar ôl i Carwyn Jones, arweinydd Llafur, fethu â sicrhau digon o bleidleisiau yn y siambr i gael ei ethol, gyda’r rhan fwyaf o’r gwrthbleidiau yn cefnogi Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru.

Cafodd y ddau 29 pleidlais yr un – gydag unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn pleidleisio o blaid Carwyn Jones.

Mae gan Aelodau Cynulliad bedair wythnos i ethol arweinydd i Gymru, neu bydd yn rhaid cynnal etholiad cyffredinol arall.

Dywedodd un o Aelodau Cynulliad Llafur Cymru, Vaughan Gething, ei fod yn “falch” o gael trafod â Phlaid Cymru ac y bydd rhaid “gweld beth sy’n dod ohonyn nhw”.

Cefndir

Mae Plaid Cymru’n anhapus â Carwyn Jones ar ôl iddo gynnal pleidlais am y Prif Weinidog yn syth, a hynny heb “drafod digon” o ystyried mai llywodraeth leiafrifol sydd gan Lafur.

Er mai Llafur yw’r blaid fwyaf yn y Cynulliad, does dim mwyafrif o seddi ganddi yn y Cynulliad, ac felly’r opsiynau yw ffurfio llywodraeth leiafrifol neu greu clymblaid.

Ffurfio llywodraeth leiafrifol oedd yn cael ei ffafrio gan Lafur, yn ôl awgrymiadau’r blaid, nid ffurfio clymblaid â Phlaid Cymru.

Dim brys?

Mae’r Blaid yn dweud nad oes “brys” i ethol Prif Weinidog, gan fod pum mlynedd mewn tymor Cynulliad ond mae Llafur yn dadlau bod angen llywodraeth i ddelio â’r argyfwng dur a’r refferendwm Ewrop.

“Dydyn ni ddim yn ceisio bwrw ymlaen i gau pleidiau eraill allan – allwn ni ddim gwneud hynny, hyd yn oed os byddwn am wneud,” meddai Vaughan Gething AC.

“Rydym yn siarad am lywodraeth leiafrifol sydd wrth gwrs yn cynnwys gweithio gydag eraill. Rydym yn barod iawn i wneud hynny.”

Gwadu dod i gytundeb ag UKIP

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi gwadu dod i gytundeb gyda’r Ceidwadwyr Cymreig ac Ukip.

Bu sôn hefyd am gytundebau posib rhwng y Blaid Lafur ac UKIP os fydd ail bleidlais dros y Prif Weinidog, ond mae Llafur yn dweud na fydd byth yn gwneud cytundeb o’r fath â’r newydd-ddyfodiaid.

“Does ‘na ddim cytundeb ag UKIP, a fydd ‘na ddim,” ychwanegodd Vaughan Gething.

“Roedd rhaid aelodau o’u grŵp wedi cynnig i gefnogi Carwyn Jones mewn pleidlais, am weithredu rhannau o’u maniffesto. Mae hynny’n rhywbeth na fyddwn yn ei ystyried.”