Safle'r ddamwain yng Nghaerfaddon
Mae trydydd dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â damwain lori yng Nghaerfaddon pan gafodd pedwar o bobl eu lladd – tri ohonyn nhw o Gymru.

Mae Peter Wood, 55, wedi’i gyhuddo o ladd anghyfreithlon.

Bu farw Robert Parker, 59, o Gwmbrân, Philip Allen, 52, a  Stephen Vaughan, 34, y ddau o Abertawe, ynghyd a Mitzi Steady, 4, o Gaerfaddon, yn y ddamwain ar 9 Chwefror y llynedd.

Fe gawson nhw eu lladd ar ôl cael eu taro gan dryc Scania 32 tunnell a oedd wedi taro nifer o gerbydau a cherddwyr wrth deithio i lawr allt serth yn  Lôn Lansdown yn Upper Weston.

Cafodd nain Mitzi Steady, Margaret Rogers, hefyd ei hanafu’n ddifrifol yn y ddamwain.

Mae dau ddyn arall Philip Potter, 19, a Matthew Gordon, 29, o Dauntsey, Wiltshire, eisoes wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiadau’n ymwneud a’r digwyddiad.

Mae Phillip Potter wedi’i gyhuddo o  ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a dau gyhuddiad o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae Matthew Gordon wedi’i gyhuddo o ddau gyhuddiad o gynorthwyo achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, dau gyhuddiad o gynorthwyo achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus, ac un cyhuddiad o yrru’n beryglus.

Fe ymddangosodd Wood, o Brooklands, Chippenham, gerbron llys ynadon Caerfaddon a Wansdyke ar ddau gyhuddiad o ddynladdiad.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Bryste ar 10 Mehefin.

Cafodd Potter a Gordon eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Bryste ar gyfer gwrandawiad ar 1 Gorffennaf.