Atomfa Trawsfynydd
Mae ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i ddyfodol ynni niwclear yng Nghymru yn parhau heddiw wrth iddyn nhw glywed tystiolaeth gan gwmnïau sy’n gyfrifol am ddadgomisiynu safleoedd Trawsfynydd a Wylfa ar Ynys Môn.

Un sy’n rhan o’r pwyllgor yw Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, ac fe ddywedodd wrth golwg360 y bydd hi’n galw am “edrych ar ffyrdd eraill i’r broses ddadgomisiynu.”

Dyma’r bumed sesiwn dystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad ac maen nhw eisoes wedi clywed barn ymgyrchwyr, cynghorwyr a phobl leol mewn cyfarfod yng Nghaernarfon ddiwedd mis Ebrill.

‘Arafu’r broses’

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae angen “edrych eto” ar y dull o ddadgomisiynu ac mae’n galw am “arafu’r broses” yn Nhrawsfynydd.

Esboniodd fod cwmni Magnox am gyflwyno cyfnod ‘gofal a chynnal’ i’r broses yn Nhrawsfynydd fydd yn parhau “am 30 mlynedd gyda’r gyflogaeth ar ei hisaf.

“Byddai’n well gen i weld proses mwy araf,” meddai, “fel bod lefel y gyflogaeth yn cael ei chynnal am gyfnod hirach.”

Mae cwmni Magnox yn cyflogi 180 o weithwyr ar safle Trawsfynydd ac yn darparu gwaith i weithwyr anuniongyrchol drwy gontractwyr.

“Rhaid inni gofio bod ardal Dwyfor Meirionydd yn un o’r rhai tlotaf o ran cyflogaeth drwy Brydain,” ychwanegodd.

“Mae hwn er lles yr ardal ac mae cynnal y gyflogaeth yn llawer mwy buddiol na bod y lle wedi’i rewi.”

Dywedodd hefyd fod gan staff dadgomisiynu safle Trawsfynydd “arbenigedd” i’w gyfrannu at waith dadgomisiynu Wylfa “sy’n gorfod digwydd beth bynnag yw hanes yr Wylfa Newydd.”

Adroddiad

Yn cyflwyno tystiolaeth heddiw, mae David Batters Prif Swyddog Cyllid yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, Kenny Douglas, Prif Weithredwr Magnox, Martin Moore a Stuart Law, Cyfarwyddwyr Cau Trawsfynydd a Wylfa.

Ychwanegodd Liz Saville Roberts ei bod yn awyddus i drafod cynlluniau Trawsfynydd ar gyfer y dyfodol gyda phosibilrwydd o gyflwyno adweithyddion modwlar bychain.

Bydd y Gweinidog Ynni, Andrea Leadsom, yn cyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor ar Mai 23 ac yna fe fyddan nhw’n llunio adroddiad ar ddyfodol ynni niwclear yng Nghymru, dros yr haf.