Yr A472 lle digwyddodd y gwrthdrawiad
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl i yrrwr fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad â cherddwr, sydd  mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 3:45 fore Sul, 8 Mai, ar yr A472, yn Hafodyrynys, ger Pont-y-pŵl, yn agos i gilfach barcio ar y ffordd.

Bu cerddwr 37 oed o ardal Crymlyn mewn gwrthdrawiad a cherbyd oedd yn teithio o Grymlyn tuag at Hafodyrynys.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau oedd yn bygwth ei fywyd ac mae ar hyn o bryd mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dydy Heddlu Gwent ddim yn gwybod os yw gyrrwr y cerbyd yn ymwybodol o’i ran yn y gwrthdrawiad.

Maen nhw’n awyddus i siarad ag unrhyw yrrwr a oedd yn teithio ar yr A472, i’r ddau gyfeiriad, rhwng 3:30 a 3:50 bore dydd Sul.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu, 120 08/05/16.