Alun Michael yw'r unig Gomisiynydd sy'n parhau yn ei swydd am dymor arall
Mae Alun Michael wedi cael ei ail-ethol yn Gomisiynydd Heddlu’r De.
Fe yw’r unig un o’r comisiynwyr sy’n parhau yn ei swydd am dymor arall.
Roedd Michael, yr ymgeisydd Llafur, ymhell ar y blaen i Timothy Davies (Ceidwadwyr) ar ôl y rownd gyntaf.
Roedd ganddo 161,529 o bleidleisiau o’i gymharu â 70,799 i’r Ceidwadwr.
Daeth ymgeisydd Plaid Cymru, Linet Purcell yn drydydd agos, gyda 29 o bleidleisiau’n unig rhyngddi hi a Davies.
Ar ôl yr ail rownd, roedd gan Michael 204,874 o bleidleisiau o’i gymharu â 96,060 i Timothy Davies.