Comisiynydd newydd Heddlu Gwent
Mae Jeff Cuthbert wedi ennill y ras i ddod yn Gomisiynydd Heddlu Gwent.
Mae’n disodli Ian Johnston.
Yn y rownd gyntaf, ennillodd Cuthbert (Llafur) 46.38% o’r bleidlais (76,893 o bleidleisiau), gan guro Louise Brown (Ceidwadwyr), oedd yn ail gyda 30.75% o’r bleidlais (50,985 o bleidleisiau).
Darren Jones (Plaid Cymru) oedd yn drydydd gyda 22.87% o’r bleidlais (37,916 o bleidleisiau), ac fe aeth allan ar ddiwedd y rownd gyntaf.
Yn yr ail rownd, enillodd Cuthbert 19,137 o bleidleisiau, tra bod Brown wedi ennill 8,946 o bleidleisiau.
42% o’r rheiny oedd yn gymwys wnaeth fwrw eu pleidlais, o’i gymharu â 13.9% yn 2012.
Sbwylio papurau
Cafodd 11,387 o bapurau eu sbwylio ac wrth ymateb i’r ffigwr hwnnw, dywedodd Darren Jones wrth bapur newydd y South Wales Argus: “Rwy’n gofidio am nifer y papurau a gafodd eu sbwylio – fe fu llawer. Bydd yn ddiddorol cymharu’r nifer gyda’r rheiny yn etholiadau’r Cynulliad.
“Rwy’n credu bod ansicrwydd yng Ngwent ynghylch pleidleisio, ynghylch y rôl yn ogystal â gwrthwynebiad llwyr i’r rôl.”