"Mandad clir" gan Lafur i lywodraethu, medd Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi dweud bod canlyniadau’r Blaid Lafur yn y Cynulliad ddydd Iau yn destun “gorfoledd”.

Enillodd Llafur 29 o seddau allan o 60, ac mae disgwyl iddyn nhw fwrw ati i ffurfio llywodraeth leiafrifol ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod canlyniadau ei blaid yn yr etholiad cyffredinol yn San Steffan, a dyfodiad UKIP i’r llwyfan gwleidyddol yng Nghymru yn y cyfamser, yn heriau y bu’n rhaid eu hwynebu.

Yn ei golofn yn y ‘Sunday Times’, cyfeiria hefyd at doriadau yng nghyllideb Cymru gan San Steffan.

“Yn y cyd-destun hwnnw,” meddai, “roedd yr etholiad ddydd Iau yn destun gwir gorfoledd i Lafur Cymru.

“Trideg yw’r nifer fwyaf o seddau a gawsom erioed yn y Cynulliad, felly roedd cael 29 y tro hwn yn rhywbeth all roi boddhad anferth i’n timau ymgyrchu ledled Cymru.”

Y Rhondda

Wrth gyfeirio at yr etholiad yn y Rhondda, pan gollodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus gynt, Leighton Andrews ei sedd i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, dywedodd Carwyn Jones: “Roedd colli’r Rhondda’n sioc ac rydym yn ffarwelio â Leighton Andrews, sy’n wleidydd talentog dros ben, gyda thristwch mawr.”

Ond fe ddywedodd fod y canlyniadau eraill ledled Cymru’n “dda”.

“Er bod y canlyniad yn dda, roedd yna frwydrau anodd ac mewn rhannau o Gymru, fe wnaeth pleidleiswyr roi negeseuon caled i ni ynghylch yr hyn y maen nhw’n ei ddisgwyl gan Lafur Cymru. Fydd y gwersi hynny ddim yn cael eu colli.”

Man cychwyn fyddai’r canlyniadau hyn, meddai, ac nid yn fan gorffen.

“Mae’r canlyniad yn fandad clir i lywodraethu, ac rydym yn credu mai dyna’r dewis gorau i Gymru ar hyn o bryd.”

Blaenoriaethau

Er ei fod yn barod i drafod “tir cyffredin” gyda’r arweinwyr eraill, fe wfftiodd y posibilrwydd o glymbleidio ym Mae Caerdydd.

Wrth gyfeirio at brif flaenoriaethau ei blaid yn y cyfnod nesaf, fe ddywedodd y byddai’r argyfwng dir ac aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn faterion a fyddai’n cael cryn sylw.

Dywedodd y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith “niweidiol… ar economi Cymru”.