Mae ymgyrch newydd ar waith sy’n gofyn i bobol adael eu ceir adref a defnyddio ffyrdd eraill, iachach o deithio i’r gwaith.

Nod Her Teithio Sustrans Cymru yw ceisio cael pobol ledled y wlad i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y gwaith bob dydd.

Mae’r elusen yn gofyn i unigolion, adrannau neu weithleoedd gofrestru am yr her sy’n digwydd rhwng heddiw a 23 Mai, i symud tuag at ffordd iachach o fyw a helpu’r amgylchfyd ar yr un pryd.

Bydd y wefan gofrestru yn cyfrifo faint o arian bydd pobol yn arbed, y nwyon C02 nad oedd yn cael eu defnyddio a’r calorïau sydd wedi llosgi yn ystod yr her.

Ar ôl yr her, gobaith Sustrans Cymru y bydd mwy o bobol yn dewis teithio i’r gwaith heb gar yn y dyfodol, ac yn gwneud y newid hwnnw am oes.

“Gwella iechyd a lles”

Yn ôl Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru, gall y wefan ryngweithiol wneud gwahaniaeth mawr wrth annog pobol i ddefnyddio ffyrdd iachach o deithio.

“Rydym yn gwybod bod cyflwyno gweithgarwch corfforol i’n bywydau bob dydd yn gwella ein hiechyd a’n lles, sy’n hanfodol ar gyfer gweithle llwyddiannus,” meddai Jane Lorimer.

Ymhlith y cwmnïau sydd eisoes wedi cofrestru, mae Dŵr Cymru a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

“Roedd yr her wedi gwella ein canolbwyntio, wedi’n helpu i hyrwyddo’r fenter ac wedi rhoi cymorth i ni gofnodi ein harferion teithio gwell,” meddai Fiona Jehu, Cydlynydd Cynaliadwyedd Dŵr Cymru, am her ddiwethaf Sustrans.