Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae’r Uchel Lys wedi gohirio dyfarniad ynglŷn â chyfreithlondeb  “boicotiau” dau gyngor o Gymru ar nwyddau o Israel.

Mae sefydliad hawliau dynol Iddewon yn honni bod Cyngor Abertawe a Chyngor Gwynedd wedi torri eu dyletswyddau cydraddoldeb drwy fethu ag ystyried “yr angen i ddod â gwahaniaethau yn erbyn Iddewon i ben”.

Mae’r Jewish Human Rights Watch yn ceisio adolygiad barnwrol yn erbyn  y ddau gyngor yn ogystal â Chyngor Dinas Caerlŷr.

Yn ôl cyfreithwyr y cynghorau, “camddealltwriaeth” sydd y tu ôl i’r achos, a’i fod wedi cyrraedd y llysoedd am fod y grŵp am “atal awdurdodau lleol rhag trafod gweithredoedd Israel”.

Casgliadau i ddod eto

Bydd y ddau farnwr, yr Arglwydd Ustus Simon a Mr Ustus Flaux yn cyflwyno casgliadau terfynol yr achos ar ddyddiad yn ddiweddarach.

Ers 2009, mae sawl cyngor ledled y DU wedi dechrau boicotio nwyddau o Israel, mewn ymateb i’r rhyfel rhwng Palestiniaid ac Iddewon yn Gaza, Israel.

Yn ôl y tri chyngor oedd dan y lach heddiw, roedd y boicotiau yn “fynegiant symbolaidd o bryder” yn unig  ynglŷn â’r  sefyllfa yn Israel, sy’n cynnwys y gwarchae parhaus ar Gaza.

Dywedodd Andrew Sharland, oedd yn cynrychioli’r awdurdodau lleol, fod aelodau’r cynghorau ond yn defnyddio eu hawl i fynegi eu barn, sydd wedi’i nodi yn y Confensiwn Ewropeaidd dros Hawliau Dynol.

Ond roedd cyfreithwyr y Jewish Human Rights Watch yn dadlau bod y boicot yn cynrychioli polisïau anghyfreithlon a oedd yn torri’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.