Llys Ynadon Merthyr Tudful
Mae dyn 21 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth tri ffrind ym Merthyr Tudful drwy yrru’n beryglus.

Fe ymddangosodd John Spencer Graham gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau i wynebu tri chyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Roedd pum dyn yn teithio yn y car Seat Ibiza pan darodd yn erbyn polyn teligraff yn y dref.

Bu farw Ryan Paul Gibbons, 20, a Gethin Rhys Jones, 18, y ddau o ardal Bargoed, yn y fan a’r lle ar Heol Aberdâr, Merthyr Tudful ar 11 Hydref y llynedd.

Roedd Joseph Daniels, 18, o Gilfach, Bargoed mewn cyflwr difrifol pan gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd a bu farw 30 diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd Graham ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yr achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 2 Mehefin.