Llysoedd Caernarfon (Llun y Gwasanaeth Llysoedd)
Mae dau frawd fu’n gweithio fel athrawon yng Ngwynedd wedi cael eu cyhuddo o greu ac o fod â delweddau anweddus o blant yn eu meddiant.
Cafodd Robyn a Dyfan Wheldon-Williams eu harestio’r llynedd.
Roedd Robyn Wheldon-Williams yn athro yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, a’i frawd Dyfan yn athro yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ar Fai 20.
Roedd Robyn Wheldon-Williams yn ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala yn 2009, ac mae’n gyn-gyflwynydd S4C.
Pwysleisiodd Cyngor Gwynedd nad oedd y cyhuddiadau’n gysylltiedig â’u gwaith fel athrawon a’u bod wedi eu gwahardd o’u gwaith pan ddaeth yr honiadau i’r amlwg.