Mae Jeremy Miles yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad am y tro cyntaf eleni
Mae aelod o genhedlaeth newydd y Blaid Lafur sydd yn gobeithio ennill sedd yn y Cynulliad am y tro cyntaf fis nesaf wedi cyfaddef bod ‘lle i wella’ ar record Llywodraeth Cymru.

Ond fe fynnodd Jeremy Miles wrth golwg360 fod Llafur wedi gwneud gwaith da o lywodraethu ym Mae Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r ymgeisydd yng Nghastell-nedd yn gobeithio olynu Gwenda Thomas, sydd wedi dal y sedd dros Lafur ers 1999, yn yr etholiad ar 5 Mai.

“Rydw i’n teimlo fod gyda ni drac record i fod yn browd ohono fe mewn nifer o feysydd, ac mae pobol hefyd yn pwyso a mesur y pleidiau yn erbyn ei gilydd,” meddai Jeremy Miles.

Ym maes iechyd mae’r gwrthbleidiau wedi pwyso’n galed ar Lafur dros y misoedd diwethaf gan eu cyhuddo o fethiannau mewn sawl rhan o’r gwasanaeth.

Ond mae Jeremy Miles – fel arweinydd ei blaid yng Nghymru, Carwyn Jones – wedi amddiffyn y record honno.

“Ydi pethau’n berffaith? Wrth gwrs dy’n nhw ddim yn berffaith, mae wastad lle i wella ar bethau,” cyfaddefodd yr ymgeisydd Llafur.

“Ond rwy’n credu bod y gwaith sydd wedi’i wneud, a’r cynnig sy’n cael ei wneud yn y pum mlynedd nesaf, yn addas ac yn ein symud ni i’r cyfeiriad iawn.”

Cwestiynau Cyflym golwg360 i ymgeiswyr o bump o’r prif bleidiau: