Mae prif weithredwr cwmni dur Tata wedi beio “gwendidau strwythurol” yn y DU am benderfyniad y cwmni i werthu ei asedau.

Dywedodd Bimlendra Jha, prif weithredwr Tata Steel UK, wrth y Pwyllgor Dethol ar Fusnes yn San Steffan na fyddai’r penderfyniad tyngedfennol hwnnw wedi cael ei wneud pe bai’r cwmni’n gwneud arian.

Ychwanegodd na allai gadarnhau’r honiad gan yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid bod y cwmni wedi bwriadu cau’r gwaith dur ym Mhort Talbot ar unwaith – ond fe ddywedodd mai newydd benderfynu ceisio darganfod prynwr i’r safle oedden nhw.

Dywedodd wrth ASau nad oedd dyddiad cau penodol ar gyfer gwerthu gweithfeydd y cwmni yn y DU ond fe wnaeth yn glir na allai Tata barhau i wneud colled am gyfnod amhenodol.

Credir bod Tata Steel yn gwneud colled o £1 miliwn y dydd yng ngwaith dur Port Talbot yn unig pan benderfynodd werthu ei asedau yn y DU ym mis Mawrth.

‘Gwendidau strwythurol’

Dywedodd Bimlendra Jha hefyd bod gan y DU wendidau strwythurol ynglŷn â phrisiau ynni a threthi busnes.

Meddai os byddai prisiau ynni’r un fath yn y DU ag yn yr Almaen, er enghraifft, byddai Tata ar eu hennill o £40 miliwn.

Fe wnaeth y Prif Weinidog, David Cameron ymweld â gwaith dur Port Talbot ddydd Mawrth i sicrhau gweithwyr, undebau a rheolwyr o ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi dyfodol y gwaith yno.

Dywedodd Bimlendra Jha ei fod yn credu bod gweithgynhyrchu ym Mhrydain wedi bod yn dirywio gan effeithio ar ddiwydiannau eraill fel dur.

Ac esboniodd na fydd prynwr ar gyfer y busnes oni bai bod Llywodraeth y DU yn helpu gyda rhwymedigaethau pensiwn Tata.

Meddai Gareth Stace, cyfarwyddwr grŵp masnach UK Steel, bod cynnydd wedi’i wneud ar bedwar o’r pum mesur mae’r diwydiant dur wedi bod yn pwyso amdanynt i’w helpu.

Ond hyd yn oed gyda’r mesurau ar waith, byddai cwmnïau yn y DU yn dal i dalu 25% yn fwy am drydan na busnesau’r Almaen, meddai.

Rhybudd

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid wrth y pwyllgor dethol fod Tata yn India wedi dweud wrth y Llywodraeth ganol fis Chwefror ei fod “o ddifrif yn ystyried” cau ei weithfeydd dur yn y DU, gan gynnwys ym Mhort Talbot.

Dywedodd Sajid Javid mai ei ffocws yn dilyn y rhybudd oedd perswadio Tata i beidio cau’r gweithfeydd ar unwaith, er mwyn rhoi amser i ddod o hyd i brynwr arall.

Pan gafodd o’i holi gan gadeirydd y pwyllgor dethol ar fusnes, Iain Wright, am y rheswm pam nad oedd o wedi teithio i Mumbai ar gyfer y cyfarfod bwrdd hollbwysig ar Fawrth 29, dywedodd Sajid Javid nad oedd yn credu y byddai bwrdd Tata’n penderfynu cau’r gweithfeydd.

Ond ychwanegodd, gyda’r fantais o edrych yn ôl, byddai wedi bod yn Mumbai ar adeg y cyfarfod bwrdd petai’n cael y cyfle eto.

Mae disgwyl i Weinidog Busnes Llywodraeth Cymru Edwina Hart, a Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community, fynd gerbron y pwyllgor dethol heddiw hefyd.