Amgueddfa Genedlaethol Cymru (Llun: Ham - CCA2.0)
Mae pwysau ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd heddiw wrth i weithwyr amgueddfeydd Cymru ddechrau ar gyfnod amhenodol o streicio a fydd yn parhau dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) sydd wedi galw’r streic mewn anghydfod sydd wedi para dwy flynedd dros newidiadau i weithio ar benwythnosau.
Mae’r gweithwyr yn anhapus y byddan nhw’n cael eu talu llai am weithio dros benwythnosau a gwyliau banc.
Mae Amgueddfa Cymru’n mynnu bod yn rhaid iddyn nhw wneud arbedion yn dilyn toriadau i’w cyllideb gan Lywodraeth Cymru.
Bydd rali yn cael ei chynnal y tu allan i adeilad yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd heddiw, ac mae disgwyl i weithwyr o bob cwr o Gymru gymryd rhan.
“Mae’n warthus bod gweithwyr ar gyflogau isel yn cael eu bwlio i arwyddo cytundeb a fydd yn golygu colli eu hawliau,” meddai ysgrifennydd cyffredinol PCS, Mark Serwotka, a fydd yn annerch y rali.
“Gydag ond wythnos i fynd tan etholiadau’r Cynulliad, rhaid i weinidogion ddangos bod yna ewyllys gwleidyddol i ddatrys yr anghydfod hir hwn.”
Cyhuddo PCS o ‘dorri cytundeb’
Dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa ei fod yn “siomedig iawn” bod yr undeb wedi penderfynu streicio, gan ei gyhuddo o dorri cytundeb a gafodd ei wneud.
“Mae’r cyhoeddiad hwn o streicio penagored gan PCS wedi dod o fewn dyddiau o gynnig i gyfarfod â’n hundebau llafur i drafod nifer y penwythnosau y mae ein staff yn gweithio,” meddai.
“Fodd bynnag, mae ein sefyllfa ariannol yn aros yr un peth. Mae’r Amgueddfa a Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth PCS nad oes rhagor o arian i wella’r cynnig.
“Rydym yn cynnig cynyddu cyflogau i’r sawl ar y graddau is 4% ar ben cynnydd o 4% yn barod. Rydym hefyd yn cynnig talu staff swm sy’n gyfwerth â gwerth dwy flynedd o lwfansau penwythnos.
“Dyma’r gorau gallwn gynnig o dan yr amgylchiadau ariannol presennol.”
Fel rhan o’r gweithredu diwydiannol, mae disgwyl i rai amgueddfeydd fod ynghau yn gyfan gwbl, a dim ond ambell wasanaeth yn cael ei effeithio mewn amgueddfeydd eraill.
Dywedodd y llefarydd y dylai pobol wirio trefniadau’r amgueddfeydd cyn teithio yno, ond mae disgwyl i’r streic effeithio ar Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lofaol Big Pit, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru.