Mae disgwyl i Blaid Cymru gyhoeddi heddiw eu cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ar draws Cymru pe bydden nhw’n cael eu hethol wedi etholiadau’r Cynulliad.

Yn ôl y blaid, dyma fyddai’r rhaglen effeithlonrwydd ynni cartref “mwyaf erioed i Gymru” ac fe fydden nhw’n anelu at wella effeithlonrwydd ynni tai dros yr ugain mlynedd nesaf.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cryfhau’r rheoliadau adeiladu er mwyn annog mwy o dai sy’n ‘Agos i Sero Ynni’ gael eu codi sy’n allforio mwy o ynni i’r grid na maent yn ei ddefnyddio.

‘Cynaliadwy’

 

“Mae tai ynni effeithlon yn elfen allweddol o gartrefi o safon,” meddai Llŷr Gruffydd, llefarydd y blaid ar Gymunedau ar hyn o bryd.

“O’r herwydd bydd Plaid Cymru yn cryfhau rheoliadau er mwyn sicrhau bod y safonau hyn yn gymwys i dai newydd a’r stoc hŷn.”

Dywedodd y byddai hyn yn “lleihau allyriadau, torri biliau ynni ac yn creu gwaith i bobol Cymru.

“Byddwn hefyd hyn gweithredu polisïau cadarnhaol o blaid solar, defnyddio pob adeilad

cyhoeddus addas, a chyflwyno ‘toeau gwyrdd’ mewn rheoliadau adeiladu er mwyn sicrhau tai newydd mwy cynaliadwy.”