Posteri'n hysbysebu'r bachyn drws Llun: Oxfam Cymru
Mae’r elusen Oxfam wedi galw ar etholwyr yng Nghymru i gymryd diddordeb yn etholiadau’r Cynulliad, gan gymryd y cyfle i leisio barn am faterion yn ymwneud â thlodi ac anghydraddoldebau.

Ym mis Ionawr eleni, fe gyhoeddodd Oxfam ddogfen o’r enw ‘Unioni’r Glorian’ sy’n amlinellu eu canllawiau i Lywodraeth nesaf Cymru i fynd i’r afael â datrys anghydraddoldebau economaidd yng Nghymru.

Mae’r ddogfen yn nodi fod “amrywiaethau mawr” mewn cyfoeth yng Nghymru, yn enwedig o ran cyflogau menywod.

Am hynny, mae’r elusen wedi lansio ymgyrch i annog y cyhoedd i ymhél â’r etholiad drwy ryddhau cyfres o fachynnau drws yn llawn cwestiynau y gallan nhw eu gofyn i ymgeiswyr.

‘Codi lleisiau’

Yn ôl Carys Mair Thomas, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae ymchwil yn dangos bod pobol sy’n byw mewn tlodi ymhlith y lleiaf tebygol o ymwneud â gwleidyddiaeth a gwaith y llywodraeth.

“Felly, mae’n bwysig ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd i gefnogi pawb –– i godi eu lleisiau a thrafod y materion sydd yn bwysig iddyn nhw cyn yr etholiad.”

Mae’r bachynnau ar gael mewn siopau Oxfam ledled Cymru ac maen nhw’n cynnwys cwestiynau’n ymwneud â chyflogau isel yng Nghymru a sut i ymateb i argyfwng y ffoaduriaid.

“Mae’r bachynnau drws yn syniad gwych,” meddai Alison Blott-Asare, Rheolwr Siop Oxfam ym Mangor.

“Weithiau gall fod yn anodd meddwl am gwestiynau i ymgeiswyr pan maen nhw’n galw yn annisgwyl felly gobeithio y bydd y rhain yn annog pobol a hefyd yn rhoi’r hyder i bobol ofyn cwestiwn, yn lle osgoi’r cyfle.”