Cofeb Hillsborough yn Lerpwl
Fe fydd y 96 o gefnogwyr Lerpwl fu farw yn nhrychineb Hillsborough yn cael eu cofio’n ddiweddarach ar ôl i reithgor ddyfarnu ddoe eu bod wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon, gan arwain at alwadau am weithredu pellach.

Fe fydd enwau ac oedran pob un o’r rhai fu farw yn y drasiedi yn 1989 yn cael eu darllen ger cofeb y tu allan i Neuadd San Siôr yng nghanol dinas Lerpwl.

Roedd dau o Gymru ymhlith y 96 fu farw – John McBrien, 18, o Dreffynnon, Sir y Fflint a David Steven Brown, 25, o Holt, ger Wrecsam.

Daeth penderfyniad y rheithgor ddoe yn dilyn cwestau sydd wedi parhau am ddwy flynedd. Fe ddaethon nhw i’r casgliad bod methiannau ar ran Heddlu Swydd De Efrog a’r gwasanaeth ambiwlans wedi “achosi neu gyfrannu” at eu marwolaethau, ac nad oedd y cefnogwyr ar fai.

Fe allai Heddlu De Swydd Efrog, y Prif Uwch-arolygydd yn y gêm ar y dydd, David Duckenfield, Gwasanaeth Ambiwlans De Swydd Efrog a nifer o unigolion eraill wynebu erlyniad troseddol.

Mae Heddlu De Swydd Efrog a Gwasanaeth Ambiwlans De Swydd Efrog yn dweud eu bod nhw’n derbyn casgliadau’r rheithgor ac maen nhw wedi gwneud ymddiheuriad cyhoeddus.

Ond mae teuluoedd y 96 o bobl fu farw, sydd wedi bod yn ymgyrchu am gyfiawnder ers 27 mlynedd, wedi cyhuddo’r heddlu o gelu gwybodaeth ac mae cyfreithwyr ar ran y teuluoedd yn dweud bod y ddau sefydliad wedi ceisio osgoi cymryd cyfrifoldeb am y trychineb.

‘Galw am newid yn y gyfraith’

Mae’r Aelod Seneddol Llafur Andy Burnham wedi galw am newid yn y gyfraith fel nad yw swyddogion yr heddlu sydd wedi ymddeol yn osgoi wynebu camau disgyblu.

“Rydym ni wedi cael y gwirionedd, rydym ni wedi cael cyfiawnder, nawr mae’n rhaid cael atebolrwydd,” meddai.

Cafodd rheithfarnau o farwolaethau damweiniol eu cofnodi yn y cwestau gwreiddiol yn 1991.

Ond fe gafodd y rheithfarnau  eu diddymu yn dilyn adroddiad gan Banel Annibynnol Hillsborough yn 2012 ar ôl ymgyrch hir gan y teuluoedd. Daeth y panel i’r casgliad bod y gwirionedd wedi cael ei gelu mewn ymdrech gan yr heddlu ac eraill i osgoi cymryd cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd.

Mae Operation Resolve, ymchwiliad yr heddlu i’r digwyddiadau ar y diwrnod, yn parhau ynghyd ag ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC). Mae disgwyl iddyn nhw anfon eu hadroddiadau at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae disgwyl i unrhyw benderfyniad ynglŷn â chyhuddiadau gan y CPS gael eu cyhoeddi o fewn tri i chwe mis.

Ond mae’r barnwr a’r sylwebydd pêl-droed Nic Parry wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru’r bore ma nad yw’n “anochel” y bydd yna gyhuddiadau troseddol er y bydd pwysau mawr i wneud hynny.