Mae etholwyr yng Ngheredigion, Preseli Penfro, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wedi derbyn ail bleidlais bost yn ddiweddar – am fod y cyntaf yn wallus.

Fe gafodd y papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ar Fai 5 eu hanfon drwy’r post at etholwyr yn y rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru rai dyddiau’n ôl.

Ond, roedd gwall yng nghyfarwyddiadau’r bleidlais ranbarthol.

Ail bapur

 

Am hynny, cafodd ail bapur ei anfon allan sy’n nodi na fydd pleidlais ar y papur gwreiddiol yn cael ei gyfrif.

Mae’n bosib hefyd na fydd pleidlais sydd eisoes wedi’i chwblhau a’i dychwelyd ar y papur anghywir yn cael ei chyfrif chwaith – a dylai etholwyr sy’n ansicr gysylltu â’r Cyngor Sir.

Er hyn, dyw’r gwall ddim yn effeithio ar y bleidlais etholaethol na chwaith ar y bleidlais ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Y gwall
Yn wreiddiol, roedd y cyfarwyddiadau’n galw ar etholwyr i bleidleisio “am un ymgeisydd yn unig drwy roi croes (x) yn y bocs wrth ochr eich dewis” – yn hytrach na nodi iddyn nhw bleidleisio “unwaith yn unig drwy roi croes (x) yn y bocs wrth ochr eich dewis’.