Carchar Biwmares, Ynys Môn, Llun: Cyngor Môn
Mae Cyngor Ynys Môn yn chwilio am gyrff eraill i redeg ei safleoedd treftadaeth, o bwys hanesyddol, a hynny er mwyn gwneud arbedion ariannol.

Y gobaith yw trosglwyddo cyfrifoldeb am safleoedd rhestredig llys Biwmares, sy’n dyddio yn ôl i 1614, y carchar a gafodd ei adeiladu yn yr Oes Fictoria, a Melin Llynnon, ger Llanddeusant, yr unig felin wynt yng Nghymru sy’n dal i weithio.

Mae’r Cyngor yn gwahodd cynigion gan gynghorau tref a chymuned, mentrau cymdeithasol, busnesau ac ymddiriedolaethau sydd â’r adnoddau, yr arbenigedd a’r profiad priodol i fod yn gyfrifol am safleoedd o’r fath.

Ar hyn o bryd, gwasanaeth Amgueddfeydd a Diwylliant y Cyngor sy’n gyfrifol am y safleoedd, sydd hefyd yn cynnwys dau dŷ crwn o Oes yr Haearn sy’n rhoi cipolwg ar fywydau ffermwyr mwy na 3,000 o flynyddoedd yn ôl.

Fodlon ystyried ‘amryw o fodelau’

Dywedodd y Cyngor ei fod yn “ystyried amryw o fodelau” i reoli’r safleoedd, yn ogystal â “defnyddiau ychwanegol wrth ddiogelu a chadw cymeriad, edrychiad a nodweddion pensaernïol a hanesyddol arbennig.”

“Oherwydd yr heriau ariannol cynyddol sydd yn ein hwynebu, rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid i ddarparu, profiad cyffrous i ymwelwyr yn y tri safle treftadaeth yma; ac yn fodlon ystyried pob math o gytundebau,” meddai Pennaeth Dysgu Môn, Delyth Molyneux.

“Bydd pob cynnig sy’n mynd i’r afael â chynaliadwyedd ariannol hirdymor o’r safleoedd wrth ddarparu profiad deinamig bywiog, i’r ymwelwyr yn cael eu hystyried yn ofalus.

“Ein prif nod yw datblygu model neu fodelau busnes newydd a chynaliadwy i ddiogelu dyfodol y safleoedd a gwarchod a chadw diwylliant a threftadaeth yr ynys.”

Yn ôl y Cyngor, bydd yn ymgynghori gyda phobl Ynys Môn unwaith y bydd wedi cytuno ar ffordd ymlaen a chyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud.

Y dyddiad cau ar gyfer unrhyw gynigion yw Mehefin 3, 2016. Mae modd cael rhagor o wybodaeth am geisiadau ar wefan Gwerthwch i Gymru.