Mae dau ymgyrchydd amlwg yr ymgyrch sydd o blaid Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi tro eu sylw at fewnfudo.

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove wedi rhybuddio y byddai’r DU yn “agored i bawb” oni bai ei bod yn torri’r rhydd o Frwsel.

Mewn erthygl yn The Times, mae’n mynnu y byddai aelodau newydd posib i’r Undeb Ewropeaidd fel Twrci ac Albania yn “fygythiad uniongyrchol a difrifol” i wasanaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd.

Daw ei sylwadau ar ôl i Faer Llundain  Boris Johnson ymateb i’r feirniadaeth am ei ymosodiad personol ar yr Arlywydd Barack Obama a oedd wedi ymyrryd yn yr ymgyrch, gan annog y DU i aros yn rhan o’r Undeb.

Fe drodd Boris Johnson ei sylw at y Prif Weinidog David Cameron gan ei gyhuddo o “gyflawni dim” yn ei drafodaethau gyda Brwsel i sicrhau gwell cytundeb i Brydain ynglŷn â mewnfudo a materion eraill.