Tai Caerdydd (Welshleprechaun CCA1.0)
Fe gododd prisiau tai yng Nghaerdydd o 3.5% mewn tri mis yn ôl cwmni sy’n cadw llygad ar y farchnad mewn dinasoedd mawr.
Hi oedd y trydydd ar restr y cynnydd cyflyma’ o blith yr 20 dinas sy’n rhan o arolwg cwmni Hometrack.
Dyma’r cynnydd cyflyma’ ers 12 mlynedd medden nhw, wrth i fuddsoddwyr ruthro i brynu cyn cynnydd mewn treth stamp ar brynu a gwerthu tai.
Mae’r ffigurau wedi eu crynhoi ar gyfer tri mis cynta’ eleni, gyda’r cynnydd treth stamp yn digwydd ddechrau Ebrill.
Y manylion
Yng Nghaerdydd, mae pris tŷ ar gyfartaledd bellach wedi codi i £191,300 – tua chanol y rhestr.
Ond dim ond mewn dwy ddinas – Lerpwl a Llundain – yr oedd prisiau wedi cynyddu mwy yn ystod y tri mis.
Mae pris tŷ ar gyfartaledd yn Llundain bellach yn nesu at hanner miliwn – ar £468,000.