Mae'n debyg bod Syr Terry Matthews yn rhan o'r consortiwm sydd yn awyddus i brynu safleoedd Tata
Mae’r biliwnydd Syr Terry Matthews wedi cefnogi consortiwm o dde Cymru sydd yn edrych i brynu gwaith dur Port Talbot, yn ôl adroddiadau.

Mae’n debyg bod Sir Terry Matthews, sydd bellach yn byw yng Nghanada, o blaid cynllun rheolwr gyfarwyddwr ffatri Tata ym Mhort Talbot, Stuart Wilkie, sy’n ystyried llunio tîm rheoli i brynu’r safle er mwyn achub miloedd o swyddi.

Y gred yw bod Stuart Wilkie eisiau canfasio gweithwyr dur i ymuno yn y cais drwy warantu buddsoddiad o hyd at £10,000 yr un.

Mae’n bosib y bydd y cynnig hwnnw’n cael ei ymestyn i’r 130,000 o aelodau o Gynllun Pensiwn Dur Prydain hefyd.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones eisoes wedi dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i brynu cyfran o’r gweithfeydd dur petai ganddi’r arian i wneud.

‘Pawb o’r un anian’

Mae’r consortiwm, sy’n cynnwys aelodau o’r sector cyhoeddus a phreifat, yn cynnwys Simon Gibson, prif weithredwr cwmni buddsoddi Syr Terry Matthews, Wesley Clover, a Steve Phillips, prif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Fe wnaeth y consortiwm cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Llun yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd, sydd yn berchen i Syr Terry Matthews, ac mae disgwyl iddyn nhw gyfarfod eto heddiw drafod y cynlluniau.

Mae Steve Phillips eisoes dweud bod aelodau’r consortiwm i gyd yn bobol o’r un anian sy’n credu bod gan y diwydiant dur ddyfodol.

Dywedodd undeb Cowedi eu bod nhw’n croesawu’r newydd a’i bod hi’n dechrau dod yn glir bod “diddordeb sylweddol” yn y busnes gan nifer o wahanol brynwyr posibl.