Y Preifat Cheryl James
Yn y cwest i farwolaeth y Preifat Cheryl James o Langollen, mae patholegydd fforensig wedi codi amheuon ynglŷn â’r honiad ei bod wedi lladd ei hun.

Cafwyd hyd i gorff Cheryl James, 18, ym Marics Deepcut yn Swydd Surrey yn 1995.

Roedd ganddi glwyf bwled yn ei phen.

Roedd hi’n un o bedwar milwr fu farw yn Deepcut rhwng 1995 a 2002.

Mae arbenigwyr balistig wedi dweud wrth y cwest fod olion lludw ar ei hwyneb a’i bys bawd, sy’n awgrymu bod dryll yn agos ati pan gafodd ei saethu.

Ond mae’r patholegydd fforensig yr Athro Derrick Pounder wedi dweud, ar sail archwiliad post-mortem diweddar, fod marciau ar ei hwyneb yn awgrymu baw neu gleisiau, ac nid lludw.

‘Dim olion lludw’

Roedd teulu Cheryl James wedi gofyn i’r Athro Derrick Pounder gynnal archwiliad post mortem ar ôl i’w chorff gael ei ddatgladdu’r llynedd.

Dywedodd fod y rhesymau am ddiffyg lludw ar ei phen “yn anhysbys i wyddoniaeth feddygol”.

Dywedodd wrth y cwest yn Woking fod yr olion lludw yn allweddol wrth geisio penderfynu sut y bu’r milwr farw.

Ond fe ddywedodd nad oedd wedi llwyddo i ddod o hyd i olion lludw yn ystod ei archwiliad.

Dywedodd fod awgrymiadau y gallai olion lludw fod wedi diflannu’n “anghywir”.

Mae disgwyl i ragor o dystion roi tystiolaeth i’r cwest ddydd Mercher, ac mae disgwyl i’r crwner grynhoi ei gasgliadau ar Fai 18.