Y Preifat Cheryl James
Wrth roi tystiolaeth yng nghwest milwr ifanc o Langollen heddiw, mae arbenigwr balistig wedi dweud bod “olion lludw” ar ei bawd a’i hwyneb yn “awgrymu” anaf o wn.

Roedd y Preifat Cheryl James yn 18 oed pan gafwyd hyd iddi gydag anaf angheuol i’w phen ar 27 Tachwedd, 1995 – un o bedwar milwr ifanc a fu farw ym Marics Deepcut yn Surrey dros gyfnod o saith mlynedd.

Roedd ganddi anaf bwled rhwng ei llygad dde a’i thrwyn.

Clywodd y gwrandawiad yn Woking bod yr arbenigwr balistig Ann Kiernan wedi cynnal cyfres o arbrofion er mwyn gweld effaith yr anaf a gafodd Cheryl James ar y croen, a’r lludw o wn.

Ond dywedodd Alison Foster QC, sy’n cynrychioli teulu Cheryl James, bod adroddiad gan y patholegydd yr Athro Derrick Pounder, yn awgrymu ei bod yn bosib mai olion o “fwd neu bridd” oedd ar ei bawd ac nid lludw o reiffl y fyddin.

Meddai Ann Kiernan bod yr anaf i groen Cheryl James a phresenoldeb y lludw ar ei llaw chwith yn “awgrymu bod y gwn yn agos i’w hwyneb.”

Cefndir

Yn 2014 roedd barnwyr yn yr Uchel Lys wedi gorchymyn cwest newydd i farwolaeth Cheryl James ar ôl diddymu rheithfarn agored a gafodd ei gofnodi ym mis Rhagfyr 1995.

Cafodd ei chorff ei ddatgladdu ym mis Awst y llynedd a chafodd archwiliad post mortem ei gynnal gan ddau arbenigwr.

Mae’r teulu wedi galw am ehangu sgôp y cwest newydd er mwyn cymryd i ystyriaeth tystiolaeth newydd a ddaeth i’r fei ym mis Ionawr  a oedd yn awgrymu bod Cheryl James wedi cael ei hecsbloetio’n rhywiol gan uwch swyddogion ychydig cyn ei marwolaeth.

Mae’r gwrandawiad yn ystyried a oedd rhywrai eraill yn gysylltiedig â’i marwolaeth a beth ddigwyddodd y noson cyn ei marwolaeth.

Mae’r cwest yn parhau.